Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn helpu i dorri Record Byd Guinness ar gyfer glanhau afonydd
Ddydd Gwener 21ain Mawrth, ymunodd carfan ddiweddaraf GTADC o recriwtiaid system ddyletswydd gyfan mewn ymgais i dorri record byd Guinness trwy gymryd rhan mewn ymgyrch glanhau afonydd enfawr ar hyd yr afon Taf. Roedd yr ymdrech yn ymestyn dros holl lwybrau’r afon, o’i tharddiad ym Mannau Brycheiniog i Fae Caerdydd.
Trefnwyd y prosiect o’r enw ‘Tacluso’r Taf’, gan gyn-bencampwr y triathlon Kate Strong. Fel rhan o’r prosiect bu 1,327 o wirfoddolwyr – gan gynnwys plant ysgol, aelodau Grŵp Afonydd Caerdydd, staff GTADC, grwpiau cymunedol, a gwirfoddolwyr eraill – yn casglu sbwriel am 30 munud mewn ymgais i dorri’r record gyfredol. Safodd y gwirfoddolwyr ar wahanol fannau ar hyd yr afon.
Dywedodd Prahvin Patel, beirniad gyda Guinness World Records, wrth y cyfranogwyr mai’r hyn oedd ei hangen oedd “cymryd rhan weithredol yn glanhau’r afon am o leiaf dri deg munud gan gael gwared ar unrhyw ysbwriel gwneud.” Pwysleisiodd y dylai gwirfoddolwyr ganolbwyntio ar lanhau’r afon yn unig, gyda thystion yn gwirio eu gweithredoedd.
Ym Mae Caerdydd, rhannwyd y gwirfoddolwyr yn ddau grŵp: gydag un yn canolbwyntio ar ardal y traeth, a’r llall yn gweithio ar yr ardal ger yr Eglwys Norwyaidd a’r Morglawdd i atal ysbwriel rhag chwythu’n ôl i’r afon. Roedd y sbwriel a gliriwyd ar y diwrnod yn cynnwys 162 o fagiau sbwriel cyffredinol, 19 o fagiau ailgylchu, chwe bag o blastig caled, bin eitemau miniog yn llawn nodwyddau ac 17 canister o ocsid nitraidd.
Yn y record flaenorol bu 329 o gyfranogwyr yn glanhau’r Afon Ganges yn India ym mis Chwefror. Chwalwyd y record hon gan yr ymdrech o Dde Cymru, gyda 998 yn fwy o wirfoddolwyr yn ymuno â’r achos.
Mynegodd Rheolwr Gwylfa Kieran Moyes, sy’n hyfforddi’r recriwtiaid newydd ym Mhorth Caerdydd, falchder am y cyflawniad: “Mae Canolfan Hyfforddi Porth Caerdydd wedi cefnogi Grŵp Afonydd Caerdydd yn y gorffennol, ac rydym yn gyffrous i barhau â’r bartneriaeth hon.
“Mewn ychydig wythnosau, bydd y recriwtiaid newydd hyn yn gweithio yn yr ardaloedd y gwnaethant helpu i’w glanhau heddiw, felly diolch yn fawr iawn i’r 20 recriwt a gymerodd ran.”
Cadarnhawyd y canlyniad tua 5:30yh Ddydd Gwener, ar ôl i Mr Patel adolygu tystiolaeth o wyth lleoliad ar hyd yr afon.