Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gynnal ymarfer hyfforddi ar raddfa fawr ym Mharc Dŵr Caerdydd
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cynnal ymarfer hyfforddi ar raddfa fawr ym Mharc Dŵr Bae Caerdydd, Caerdydd ddydd Iau 8 Mehefin 2023.
Mae cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a phartneriaid hefyd yn cymryd rhan yn yr ymarfer, gan gynnwys staff Parc Aqua Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Pwrpas yr ymarfer yw atgynhyrchu senarios brys amrywiol i brofi ymateb gweithredol, triniaeth ac achub anafusion o gorff o ddŵr. Bydd yr ymarfer hefyd yn creu cyfle i gynnal hyfforddiant cymorth cyntaf hanfodol.
Bydd nifer fawr o wirfoddolwyr hefyd yn cymryd rhan, gan weithredu fel anafusion i ychwanegu ymdeimlad o realaeth a brys i’r senarios.
Dywedodd Rheolwr Gorsaf Lauren Jones:
“Mae digwyddiadau hyfforddi gweithredol fel hyn yn galluogi ein criwiau i hyfforddi mewn amgylchedd realistig ac heriol, i sicrhau bod cymhwysedd gweithredol yn cael ei gynnal.
“Mae’r ymarfer hwn hefyd yn cynnwys elfen o weithio ar y cyd gyda chydweithwyr a bydd yr hyn a ddysgwn o ddigwyddiadau o’r fath yn datblygu ein sgiliau, ein hymateb a’n perthnasoedd gweithio ymhellach.”
Bydd yr ymarfer yn dechrau am tua 10:30yb a disgwylir iddo bara tan 1yp.
Anogir trigolion cyfagos i beidio â chael eu dychryn gan bresenoldeb cynyddol y gwasanaethau brys, megis personél, cerbydau ac adnoddau ymateb brys.
Mewn argyfwng sy’n ymwneud â chyrff o ddŵr, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ac Achub os yn fewndirol neu Wylwyr y Glannau os ar yr arfordir.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor diogelwch ynghylch dŵr, ewch i’n Tudalen Diogelwch Dŵr.