Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi ymgyrch #DewisDoeth i atal Gyrru dan ddylanwad Yfed a Chyffuriau
Ryw ddiwrnod byddwch yn sylweddoli’r niwed yr ydych wedi’i achosi ond erbyn hynny bydd hi’n rhy hwyr. Mae gan bawb ddewis – dyna neges Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gefnogi’r ymgyrch flynyddol a gynhelir yn ystod y gaeaf i atal gyrru dan ddylanwad yfed a chyffuriau #DewisDoeth, a arweinir gan yr Heddlu.
Heddlu Gogledd Cymru sy’n arwain yr ymgyrch i atal gyrru dan ddylanwad fydd yn digwydd gydol mis Rhagfyr gan ddefnyddio gwybodaeth leol am ardaloedd â phroblem yn ogystal â thactegau’n seiliedig ar gudd-wybodaeth i ddod o hyd i yrwyr. Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio’n agos gyda’r heddlu yn ystod y cyfnod hwn a bydd y Gwasanaeth hefyd yn cynnal digwyddiadau mewnol, megis eu sesiynau Domino yn y Gweithle, a gynllunir yn benodol i godi ymwybyddiaeth o’r #Fatal5 yn ogystal ag addysgu staff yn y gweithle ynghylch y peryglon sy’n gysylltiedig â Gyrru yn y Gaeaf i godi ymwybyddiaeth. Mae codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrchoedd hyn yn strategaeth ataliol allweddol i’r Gwasanaeth, gan gynorthwyo i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel yn ystod y gwyliau hyn.
Meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, “Gall yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau arwain at ganlyniadau dinistriol i unigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau ac mae gormod o fywydau wedi cael eu colli a’u chwalu’n barod oherwydd gweithredoedd pobl eraill. Yn anffodus, ac yn drist iawn, mae nifer o yrwyr o hyd sy’n dal i roi eu hunain a’r rhai o’u hamgylch mewn perygl mawr drwy yrru mewn cyflwr anaddas.
“Allai fy neges ddim bod yn gliriach – y ffordd orau o sicrhau diogelwch pawb yw cynllunio ymlaen llaw a gadael y car gartref os ydych chi’n mynd allan i gael diod.
Nid yw’n werth gymryd y risg.
“Mae’r Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Gwasanaeth Ambiwlans yn gwneud gwaith rhagorol gan orfod delio â chanlyniadau ataliol yfed a gyrru ac fe hoffwn i ddiolch iddynt yn ddiffuant iawn am eu gwaith diflino.
Mae Ymgyrch i Atal Yfed a Chyffuriau #Dewis Doeth a gynhelir yn y gaeaf yn ymwneud â sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein ffyrdd yn gwneud hynny mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, sef yn union fel y dylai fod.”
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, “Mae alcohol a chyffuriau yn amharu ar allu pobl i farnu, gan achosi i yrwyr a beicwyr fod yn or-hyderus ac yn fwy tebygol o fentro a chymryd risgiau. Mae pobl yn ymateb yn arafach, mae’r pellteroedd gofynnol ar gyfer stopio yn cynyddu, mae’n fwy anodd i asesu cyflymder a phellter ac mae’r maes gweld yn lleihau. Mae’r gallu i yrru neu reidio’n ddiogel yn cael ei amharu’n ddirfawr ac mae’r tebygolrwydd o gael gwrthdrawiad yn cynyddu’n sylweddol.”
Gofynnir i unrhyw un â ganddynt bryderon am rywun a allai fod yn gyrru dan ddylanwad i gysylltu â’r heddlu ar 101 (neu 999 os ydy’r perygl maent yn ei achosi ar ddigwydd) neu, fel arall, cewch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Am ragor o wybodaeth am Ddiogelwch ar y Ffyrdd ewch i: https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/diogelwch-ar-y-ffyrdd/bod-yn-ymwybodol/