Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cyhoeddi ei Gynllun Gwella Strategol ar gyfer 2025-2040
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cyhoeddi ei Gynllun Gwella Strategol ar gyfer 2025-2040
Mae’r Cynllun Gwella Strategol yn ofyniad cyfreithiol ac mae’n cynnwys diweddariadau ar strategaeth, adolygiadau thematig, newid trawsnewidiol a diwylliannol, a’r cynllun gwella blynyddol.
Mae’r cynllun hwn yn gosod cyfeiriad strategol y Gwasanaeth ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, a ddatblygwyd trwy ymgynghori ac ymgysylltu, ac mae’n seiliedig ar ein Cynlluniau Gwella Blynyddol. Mae e’n canolbwyntio ar wyth thema strategol, sef:
Mae’r themâu hyn hefyd yn strwythuro ein blaenoriaethau a’n cynllunio, wrth i ni weithio i gyflawni ein datganiad o weledigaeth:
“Gweithio fel un tîm i fod yn Wasanaeth Tân ac Achub rhagorol, gan amddiffyn De Cymru heddiw, ac arloesi’n uchelgeisiol ar gyfer yfory.”
Rydym wedi mapio’r themâu hyn i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (DLlCD) i ddangos sut mae ein blaenoriaethau’n cyfrannu at y saith nod llesiant.
Trwy barhau i wrando a deall yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud, bydd y Gwasanaeth yn sicrhau bod ei gyfeiriad strategol yn parhau i fod yn addas i’r pwrpas yn y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â helpu i sicrhau Gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Mae’r cynllun hefyd yn cyflwyno gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd newydd y Gwasanaeth. Drwy ymgynghori â’n pobl, rydym wedi creu fframwaith newydd a fydd yn siapio ein diwylliant ac yn cynyddu ein galluoedd. Bydd y gwerthoedd hyn yn sail i’n gwaith, gan sicrhau mai ni yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub rhagorol y mae cymunedau a phobl De Cymru yn ei haeddu.
I ddarllen y fersiwn Gymraeg, cliciwch yma.
I ddarllen y fersiwn hawdd ei deall, cliciwch yma.
I ddarllen y fersiwn Saesneg, cliciwch yma.
Darllenwch y fersiwn hawdd ei ddeall yn Saesneg, cliciwch yma.