Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal digwyddiad Merched yn y Gwasanaeth Tân (MGT) Cymru cyntaf erioed

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnal digwyddiad Merched yn y Gwasanaeth Tân (MGT) Cymru cyntaf erioed

Mynychodd dros 100 o gynrychiolwyr o wasanaethau tân ac achub ledled Cymru y digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd 18fed-19eg Hydref.

Gwahoddwyd aelodau staff gweithredol a chorfforaethol i roi cynnig ar gyfoeth o weithgareddau yn ymwneud â diffodd tanau gan gynnwys dringo ar fwrdd confoi golau glas a yrrwyd trwy strydoedd Caerdydd a rhoi cynnig ar dechnegau abseilio achub â rhaff, a hefyd fynychu seminarau ar bynciau megis ymwybyddiaeth o’r menopos, newid diwylliannol a grymuso merched.

Yn deillio o’r grŵp hunangymorth Rhwydweithio menywod yn y Gwasanaeth Tân (RhMGTA, a sefydlwyd yn y 1990au, daeth y sefydliad dielw dan arweiniad gwirfoddolwyr yn Fenywod yn y Gwasanaeth Tân (MGT) gyda’r nod o rymuso menywod, gan hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael â materion difrifol y cyfnod, gan gynnwys diffyg cyfleusterau, gwisg anaddas, bwlio ac aflonyddu.

Dywedodd Jules King, Cadeirydd MGT, “Rwyf wedi gweithio yn y Gwasanaeth Tân ers dros 20 mlynedd ac mae pethau’n llawer mwy cadarnhaol i fenywod ar draws y sector erbyn hyn. Mae’n anhygoel gweld cymaint o egni y mae’r digwyddiadau MGT hyn yn ei greu ar hyd a lled y wlad, gan ganiatáu i bobl wneud rhywbeth newydd a magu hyder ill ddau.

Dechreuodd y diwrnod cyntaf gydag ymarferion adeiladu tîm ac arddangos cit ac offer gan dimau Chwilio ac Achub Trefol (ChAT), roedd cynrychiolwyr yn gallu dysgu am yr ystod o dronau sy’n cael eu treialu sy’n helpu i leihau risg i Ddiffoddwyr Tân a gwella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sydd ar goll ac anafusion ar draws ardaloedd chwilio ehangach.

Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â Cooper, – labrador croes Malinois o Wlad Belg bedair oed, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel un o gŵn ChAT gorau’r DU, a ddangosodd ei ddawn i leoli pobl a gwrthrychau yn yr iard ymarfer.

Roedd sesiynau ymarferol gan gynnwys trawma datblygedig a senarios gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd hefyd yn galluogi mynychwyr i achub, trin, a thynnu anafusion, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o offer arbenigol.

Dywedodd Ffion Jenkins, sy’n Ddiffoddwr Tân Wrth Gefn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r senarios trawma datblygedig gydag actorion yn chwarae rhan anafiadau bywyd go iawn wedi bod yn wych – dydw i erioed wedi bod mewn sefyllfa fel hon, felly mae wedi rhoi mewnwelediad i mi o’r hyn sydd i ddod yn fy ngyrfa ac mae’n brofiad da iawn ar gyfer datblygiad diweddarach. Mae wedi rhoi hwb mawr i fy hyder.”

Rhoddodd personél Rheoli Tân ac Ymchwilio i Leoliadau Tân gipolwg ar eu rolau gyda galwadau gwirioneddol ac enghreifftiau o achosion, a chynhaliwyd sesiynau ymarfer ffitrwydd Ymladdwyr Tân oedd yn galluogi mynychwyr gael blas ar y gwaith cyn dod ynghyd eto am noson o rwydweithio yng Ngwesty’r Village.

Clywodd gwesteion gan y ddau Angel Tân Antarctig sef Georgina Gilbert a Rebecca Openshaw-Rowe – dwy ddynes sy’n  Ymladdwr Tân a gwblhaodd yr alldaith 1230 cilometr i Begwn y De er mwyn newid syniadau am hyn y mae’n ei olygu ‘i fod yn ferch’ yn y Gwasanaeth Tân. Hefyd siaradodd Dany Cotton QFSM, y ddynes gyntaf i fod yn Gomisiynydd Brigâd Dân Llundain.

Wrth drafod syndrom y ffugiwr a rhannu profiadau anodd o sut brofiad oedd bod yn fenyw ar ôl ymuno â’r Gwasanaeth Tân ym 1985, mae Dani’n cydnabod mai rhwydwaith GTAGC oedd y rheswm iddi aros mewn sefydliad a oedd mor ddigroeso i fenywod – a oedd hefyd, ar y pryd , ag anghydbwysedd rhyw o tua 30:9000.

Dywedodd Rebecca Brent Diffoddwr Tân gyda GTAGC: “Mae cymaint o wybodaeth a phrofiad yma ac mae hi wedi bod yn braf integreiddio, cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.

“Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a hawdd mynd atynt ac mae’n dda gwybod nad ydych ar eich pen eich hun wrth wynebu rhai o’r rhwystrau di-fudd sy’n dal i fodoli, ond nawr rwy’n gwybod sut y gallwch fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.

Er bod y syniad o fynd i mewn i adeilad llosgi yn ymddangos yn annealladwy i lawer o bobl, cael profiad o fod yn agos ac i dân a gyrhaeddodd tua 650 gradd oedd yr uchafbwynt i nifer o gynrychiolwyr.

Dywedodd Sarah Griffiths sy’n Swyddog Adnoddau Dynol GTADC: “Mae proffesiynoldeb yr hyfforddwyr wedi bod yn wych, ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel yn mynd i mewn i’r adeilad.

“Roedd bod mor agos at dân a sylweddoli’r effaith mae’r mwg a’r gwres yn ei gael ar eich synhwyrau yn brofiad anhygoel, ond roeddwn i’n teimlo’n hyderus gyda’r offer, ac roeddwn i eisiau gwneud mwy – byddwn yn argymell pawb i fynychu digwyddiad tebyg!”

Yn yr areithiau wrth gloi soniodd Lauren Jones y trefnydd a Rheolwr Grŵp, a Stuart Millington Prif Swyddog Tân Dros Dro GTADC am lwyddiant ysgubol y ddau ddiwrnod gan fyfyrio ar garreg filltir arwyddocaol digwyddiad cyntaf Cymru.