Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Eleni rydym yn falch o gefnogi thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y Cenhedloedd Unedig (CU) sef ‘Hawliau cyfartal. Cyfleoedd cyfartal. Grym cyfartal’ wrth i ni ystyried ein taith hyd yn hyn i greu gweithle mwy cyfartal i bawb, gan beidio â chaniatáu i rywedd fod yn rhwystr i fynediad at gyfleoedd.

Yn dilyn adolygiad diwylliant Fenella Morris, rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau allweddol i gefnogi ein staff benyw, gan gynnwys:

Polisi Mamolaeth – Rydym wedi ymrwymo i gefnogi menywod y gwasanaeth mewn gweithle cyfartal a chynhwysol, gan gynnig 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth â thâl i weithwyr cymwys yn dilyn adolygiad o’n darpariaeth mamolaeth.

Ymwybyddiaeth o’r menopos o fewn y Gwasanaeth – Rydym yn cydnabod y gall profi symptomau menopos fod yn gyfnod heriol a llawn straen.

Mae cwrs e-ddysgu newydd mewn ymwybyddiaeth o’r menopos wedi’i ddatblygu a’i lansio’n fewnol, ar gyfer yr holl staff. Rydym yn annog cymaint o bobl â phosibl i gwblhau’r cwrs 30 munud hwn, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r menopos a’r effaith y gall ei gael ar y menywod o’n cwmpas.

Rydym wedi sefydlu ffurflen hunan-gyfeirio i unrhyw un sydd angen mynediad at Iechyd Galwedigaethol i gael cymorth yn gysylltiedig â’r menopos.

Nodau strategol i greu amrywiaeth o fewn ein gweithlu – Rydym wedi cymryd camau i newid sut mae rolau o fewn y gwasanaeth tân yn cael eu canfod, gan ganolbwyntio ein hymgyrchoedd yn y cyfryngau i helpu mwy o fenywod i weld modelau rôl o fewn y gwasanaeth, a’u hannog i ystyried ymgeisio am ein rolau gweithredol a chorfforaethol.

Rydym hefyd wedi cyflwyno sesiwn “Ymarfer Corff i Fenywod yn Unig gyda’r Wylfa“, i ddarparu lle i fenywod ddod at ei gilydd i brofi eu ffitrwydd yn erbyn gofynion recriwtio sy gyda ni i ddiffoddwyr tân.

Un o’n huchafbwyntiau y llynedd oedd cynnal y digwyddiad Merched yn y Gwasanaeth Tân Cymru Gyfan cyntaf erioed yn ein Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd. Roedd dod â dros gant o staff corfforaethol a gweithredol o’r tri gwasanaeth Cymraeg at ei gilydd yn brofiad anhygoel, gan roi cyfle i rwydweithio, dysgu oddi wrth ein gilydd, a theimlo eu bod wedi’u grymuso yn eu rolau.

 

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn cynnal digwyddiad Merched yn y Gwasanaeth Tân Cymru Gyfan eleni am yr eildro, yn ein Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd ym mis Hydref.

 

Cynhelir  Digwyddiad Hyfforddi a Datblygu Cenedlaethol Merched yn y Gwasanaeth Tân am y trydydd tro ar hugain ar 20fed – 22ain  Mehefin 2025, yng Ngholeg y Gwasanaeth Tân yn Moreton-in-Marsh. Mae’r digwyddiad yn agored i bob rôl o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Wrth i ni barhau ar ein taith, rydym ymrwymedig o hyd i sicrhau bod ein polisïau, ein mentrau, a’n diwylliant yn y gweithle yn cefnogi pawb — o bob rhyw. Rydyn ni eisiau creu man lle gall pob unigolyn ffynnu a theimlo eu bod wedi’u grymuso.