Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dathlu’r garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Dyletswydd Gyflawn
Ddydd Gwener 22ain Tachwedd, cynhaliwyd Gorymdaith Raddio yng Nghanolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i longyfarch 22 o Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser sydd wedi cwblhau’r cwrs trosi chwe wythnos yn llwyddiannus.
Mae’r digwyddiad yn ddefod newid byd i’r holl Ddiffoddwyr Tân ar ôl iddynt orffen eu cwrs a dod yn gwbl gymwys ac roedd yn gyfle i ddathlu a myfyrio ar eu cyflawniadau yng nghwmni eu teulu a’u ffrindiau.
Gan arddangos ciplun o’r sgiliau y maent wedi’u dysgu fel Ymladdwyr Tân Ar Alwad a ddatblygwyd ymhellach yn ystod y cwrs trosi, dangosodd y recriwtiaid senarios yn ymwneud â datglymu gwrthdrawiad traffig ffordd (RTC), achub ag ysgol, trawma ac offer anadlu (OA).
Yn dilyn yr arddangosiadau, agorodd y Rheolwr Gorsaf Nev Thomas y seremoni trwy longyfarch y recriwtiaid a diolch iddynt am eu dyfalbarhad a’u penderfyniad: “Trwy gydol y cwrs rydych wedi dangos agwedd wych, gadarnhaol, ac eisiau dysgu a gofyn cwestiynau i roi’r gwasanaeth i’r cyhoedd y maent yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu”.
Derbyniodd y recriwtiaid eu tystysgrifau cwblhau a gwobrau gan y Prif Swyddog Tân Fin Monahan.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Fin Monohan: “Dechrau eich taith yw hyn; Chi yw dyfodol y Gwasanaeth yn fy nhyb I, gan gymryd y sgiliau rydych chi wedi’u dysgu dros y chwe wythnos a’r amser a dreulioch fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.”
“Rydw i wir wedi mwynhau’r digwyddiad teuluol hwn, gan glywed y fonllef a’r gefnogaeth y tu allan, hoffwn ddiolch i deuluoedd, hyfforddwyr a phawb sydd wedi helpu i ddylanwadu ar y bobl anhygoel hyn”. Derbyniodd Diffoddwr Tân Daniel Rosser y wobr Recriwtio Recriwt, a gyflwynir i’r recriwt sydd, ym marn eu cyd-aelodau cwrs, wedi cyfrannu fwyaf trwy gydol y chwe wythnos o hyfforddiant.
Dyfarnwyd y fwyell arian i Ddiffoddwr Tân Jacob Hillman. Mae hwn yn draddodiad hirsefydlog ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub y DU sy’n cael ei ddewis gan yr hyfforddwyr arweiniol a’i ddyfarnu i’r recriwt sy’n cyflawni orau ar y cwrs.
Llongyfarchwyd y recriwtiaid ymhellach gan y Comisiynydd Kirsty Williams: “Mae heddiw’n nodi diwedd chwe wythnos o waith caled ac ymroddiad, rydych i gyd yn fodelau rôl yn eich cymunedau, gan ddangos eich ymrwymiad i fod yno i bobl yn ystod rhai o’r adegau gwaethaf.”
Dywedodd y Diffoddwr Tân Alys Lynch: “Gwnaeth yr hyfforddiant wella’r sgiliau sylfaenol sy gyda ni yn barod gan ein profiad ar alwad. Achub o ddŵr oedd y mwyaf heriol ond roedd brwdfrydedd y grŵp drwy’r broses gyfan yn anhygoel.”
Ychwanegodd y Diffoddwr Tân Nathan Short hefyd: “Fy hoff ran o’r hyfforddiant oedd achub o ddŵr, a hefyd gydweithio fel tîm, byddwn yn deulu am byth ar ôl hyn”.
“Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod eisiau helpu pobl, pan ymunais â’r garfan ar alwad, doedd gen i ddim syniad am faint y byddwn i’n gwirioni ar y swydd.”
I gloi’r seremoni cafwyd fideo byr yn rhoi cipolwg ar y gwaith a wnaeth y recriwtiaid dros y chwe wythnos diwethaf.
Gallwch weld ein carfan ddiweddaraf o Ymladdwyr Tân llawn amser yma.