Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn lansio ei ymgyrch recriwtio Ar Alwad 2024

Ym mis Gorffennaf eleni, rydym yn lansio ein hymgyrch recriwtio newydd i dynnu sylw at rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad a hefyd recriwtio ar gyfer nifer o’n swyddi gwag ar draws De Cymru.

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n sefydliad; sef dros hanner ein gweithlu gweithredol. Maent yn ein helpu gyda’n hymgyrch i leihau risg a chadw cymunedau De Cymru yn ddiogel.  Mae ein hymgyrch ‘#YouCan’ yn cynnwys nifer o’n Diffoddwyr Tân Ar Alwad cyfredol sy’n dangos sut y gallwch chi

  • Ennill sgiliau newydd
  • Ennill mwy o arian
  • Fod yn rhan o dîm
  • Ennill cymwysterau
  • Gefnogi eich cymuned

Yn debyg i rôl System Dyletswydd Gyflawn, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig e.e. gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd, a thrychinebau naturiol eraill. Mae hefyd yn ofynnol iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol, a chynnal ymweliadau ‘diogel ac iach’ yng nghartrefi pobl.

Rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad fyw neu weithio o fewn eu cymunedau lleol, ac maent yn cynnwys pobl o bob cefndir. Gallent fod yn adeiladwyr, ymgynghorwyr, rhieni sy’n aros gartref, gweinyddwyr, gweithwyr ffatri, gweithwyr gofal, myfyrwyr, neu bobl nad ydynt yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd. Maent yn bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gyfnewid am gyflog.

Mae pob Diffoddwr Tân Ar Alwad yn cario ‘larwm rhybuddio’ bob amser tra ar ddyletswydd, er mwyn iddynt allu ymateb i alwad o’u Gorsaf o fewn amser penodol. Gallant ymateb o’u cartref yn ystod amser hamdden neu, mewn rhai achosion, o’u man gwaith os yw eu cyflogwr yn caniatáu hynny.

Gofynnwn i bob Diffoddwr Tân Ar Alwad ymrwymo i ddarparu nifer penodol o oriau o gyflenwi a mynychu sesiwn hyfforddi gyda’r nos bob wythnos (sef noson ymarfer).

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir. Bydd manylion yr holl ymgyrchoedd recriwtio yn cael eu hysbysebu ar y dudalen hon.

Rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 17 a 6 mis oed ar ddyddiad y cais, ac o leiaf 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y Cwrs Hyfforddi Diffoddwyr Tân i fod yn gymwys i ymgeisio.

Dewch i ymuno â ni yn un o’n digwyddiadau recriwtio ym mis Gorffennaf yma lle byddwch chi’n gallu cwrdd â’r criwiau, gofyn cwestiynau, gweld arddangosiadau, a llawer mwy! Ewch i’n tudalen digwyddiadau i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi.

Dewch i gwrdd â David

“Mae bod yn Ddiffoddwr Tân yn yrfa sy’n rhoi boddhad mawr – mae’n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi.”

Mae David yn Driniwr Coed hunangyflogedig ac mae hefyd yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Rhisga. Mae’n ymrwymo i wneud 63 awr yr wythnos, gan weithio sifftiau nos yn bennaf tra bod ei deulu’n cysgu.

“Fel teulu, mae’r oriau hynny’n gweithio’n dda iawn i ni. Mae fy oriau gwaith arferol rhwng 08.00 – 16.30, felly rwy’n dal i gael amser gyda fy mhartner a’m llysferched bob dydd.

“Mae Charlotte, sy’n ddwy oed, ychydig yn rhy ifanc i ddeall, ond mae Isla, sy’n bum mlwydd oed, yn meddwl ei fod yn gyffrous iawn ac mae wrth ei bodd yn dod i’r Orsaf. Mae hi’n falch iawn o ddweud wrth ei ffrindiau fy mod i’n Ddiffoddwr Tân.”

Roedd David yn arfer rhedeg ei fusnes ei hun yn Newcastle cyn symud i Gymru, a darganfod bod ei waith Newydd yn llai o gyflog. Cafodd ei ysbrydoli i ymuno ar ôl cyfarfod â Diffoddwyr Tân trwy ei waith, ac ers iddo wneud cais trwy ein Tudalen Diffoddwyr Tân Ar Alwad, nid yw wedi edrych yn ôl.

“Mae gweithio fel Diffoddwr Tân mor werth chweil. Doeddwn i ddim yn adnabod llawer o bobl pan symudais yma gyntaf, ond rydw i wedi dod o hyd i gylch gwych o ffrindiau yn yr Orsaf.

“Rwyf wrth fy modd yn dysgu sgiliau newydd a chael swydd â chymaint o gyfleoedd ar gyfer dilyniant y gallwch chi wella eich hun drwyddynt.

“Cefais fy synnu gan faint o’r rôl sy’n seiliedig yn y gymuned, yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus ac yn ymgysylltu ag ysgolion a cholegau.

“Fel aelod o’r Gwasanaeth Tân rydych yn wirioneddol weladwy fel model rôl mewn cymdeithas ac mae’n dda gwybod eich bod yn cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.

“Rydyn ni’n gweithio llawer gydag asiantaethau partner, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaethau ambiwlans, ac mae’n deimlad mor wych pan fyddwch chi’n gallu helpu pobl a gadael swydd gan wybod eich bod chi wedi eu gadael nhw mewn sefyllfa well na phan gyrhaeddoch chi yno.”

Dewch i gwrdd ag Evie

“Mae fy rhieni mor falch ohonof i ddod yn Ddiffoddwr Tân.”

Mae Evie yn astudio i fod yn hyfforddwr campfa a hyfforddwr personol. Ar ôl cael ei chyflwyno i’r Gwasanaeth Tân gan gymydog, edrychodd Evie ar ein Tudalen Diffoddwyr Tân Ar Alwad a phenderfynodd wneud cais. Mae hi erbyn hyn yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Abercarn.

“Rydw i wastad wedi bod yn frwd am ffitrwydd ac roeddwn i eisiau cael gyrfa sy’n cynnwys bod yn actif yn gorfforol, felly mae’r Gwasanaeth Tân yn berffaith i mi.”

Gan ymrwymo i 63 awr yr wythnos i’w rôl Ar Alwad, mae Evie yn gallu ffitio cymysgedd o sifftiau dydd a nos o gwmpas ei llwyth gwaith addysgol.

“Es i lawer o nosweithiau ymarfer a gwneud llawer o waith paratoi cyn ymuno, a gwnaeth hynny’r broses yn llawer haws.”

Cafodd Evie ei synnu gan yr amrywiaeth o ddigwyddiadau y mae’r Gwasanaeth Tân yn ymwneud â nhw, gan gynnwys achub anifeiliaid i ymgysylltu â’r gymuned, ac mae’n mwynhau ymweld ag ysgolion yn arbennig i ddysgu plant am risgiau tân a sut i gadw’n ddiogel.

“Byddwn yn bendant yn argymell ymuno â’r Gwasanaeth Tân – mae mor amrywiol a chyffrous. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych a mwynhau’r holl gyrsiau hyfforddi a dysgu sgiliau newydd yn fawr. Byddaf yn mynd ar y cwrs Hazmat yn fuan ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.”

Dewch i gwrdd â Simon

“Rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd ac mae pob galwad yn wahanol.”

Mae Simon yn berchen ar ei gwmni adeiladu ei hun, ond mae bob amser wedi breuddwydio am ddod yn Ddiffoddwr Tân.

“Ymunodd llawer o fy ffrindiau ysgol â’r Gwasanaeth Tân a meddyliais ‘pam lai?’ Fel cyn-chwaraewr rygbi, roeddwn i wir yn gweld eisiau’r cyfeillgarwch a ddaw drwy fod yn rhan o dîm a’r agwedd ymarfer corff, felly mae dod yn Ddiffoddwr Tân wedi bod yn berffaith i fi!”

Penderfynodd Simon fentro a gwnaeth gais i ymuno. Ar ôl cwblhau’r cwrs hyfforddi’n llwyddiannus, daeth yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Aberbargod.

Gan ei fod yn fos arno fe ei hun, gall Simon ymateb pryd bynnag y bydd y larwm rhybuddio’n canu; dydd neu nos.

“Rwy’n ymrwymo i 80 awr yr wythnos, sy’n swnio’n gryn dipyn, ond rwyf wrth fy modd. Mae’n amrywiol iawn ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych, felly dw i ddim yn teimlo fy mod yn colli allan ar gael bywyd cymdeithasol.”

Mae Simon yn cael cefnogaeth dda yn ei rôl Diffoddwr Tân gan ei ddau blentyn, Rhys sy’n 7 oed a Megan sy’n 12 oed, ac mae’r ddau eisiau ei ddilyn yn y Gwasanaeth.

“Mae Rhys eisiau bod yn Ddiffoddwr Tân ac mae Megan yn bwriadu ymuno â rhaglen y Cadetiaid Tân. Maen nhw’n falch iawn o’r hyn rydw i’n ei wneud, ac maen nhw’n gweld cymaint rydw i’n mwynhau’r gwaith.

“Mae’r hyfforddiant sy gyda chi’n wych, yn enwedig y sgiliau a’r technegau rydych chi’n eu dysgu ar gyfer delio â digwyddiadau traffig ar y ffyrdd, mae’n anghredadwy.

“Rwyf wrth fy modd yn rhoi fy hyfforddiant ar waith, a’r peth gorau yn y byd yw helpu pobl yn eich cymuned eich hun.”

Oes diddordeb gyda chi mewn ymuno â’r tîm?

http://bit.ly/SWFRS_On-Call

Drwy gydol mis Gorffennaf, byddwn yn hyrwyddo ein swyddi gwag Diffoddwyr Tân Ar Alwad ledled De Cymru, gan amlygu’r rôl a hyrwyddo nifer o weithgareddau, swyddi gwag a digwyddiadau ar ein sianeli – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar Facebook | Twitter | Instagram i ddarganfod mwy!