Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol newydd
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, Steve Bradwick:
“Rwy’n falch o gyhoeddi penodiad Geraint Thomas i rôl y Dirprwy Brif Swyddog, Gwasanaethau Corfforaethol. Mae hyn yn dilyn proses recriwtio grymus a oedd yn cynnwys asesiad canolog, cyfweliad â’r Uwch Dîm Gweithredol a chyfweliad gydag Aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub. Mae Geraint, sydd wedi gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am dros 22 mlynedd, wedi bod yn y rôl ar sail dros dro ers Mehefin 2021. Hoffwn longyfarch Geraint ar gael ei benodi i’r rôl ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag ef”.
Dechreuodd Geraint gyda’r Gwasanaeth ym Mawrth 2000 fel Technegydd Cyfrifyddu. Gyda chefnogaeth y Gwasanaeth, cymhwysodd fel Cyfrifydd yn 2005. Ar hyd ei yrfa gyda’r Gwasanaeth, bu hefyd yn gwasanaethu rolau fel Cyfrifydd Rheolaethol, Rheolwr Cyllid a Phennaeth Cyllid, Caffael ac Eiddo ac aelod o’r Uwch Dîm Gweithredol ers 2009.
Mae rôl y Dirprwy Brif Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol yn cwmpasu adrannau’r Wasg a Chyfathrebiadau, Cynllunio Perfformiad, Llywodraethu Gwybodaeth, Cyllid, Caffael, Eiddo, Cynaliadwyedd, Cyfreithiol ac Yswiriant a Chymorth Busnes yn ogystal â bod yn Swyddog Monitro ac Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) i’r Gwasanaeth.