Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymuno â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Medserve Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn falch o gyhoeddi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Medserve Cymru. Nod y bartneriaeth newydd hon yw cryfhau’r cydweithio rhwng y ddau sefydliad i gefnogi’r gymuned trwy wella gwasanaethau ymateb brys.

 

Mae Medserve Cymru, elusen yn ne Cymru sy’n gysylltiedig â Chymdeithas Gofal Ar Unwaith Prydain, yn darparu clinigwyr arbenigol gwirfoddol i gynorthwyo’r gwasanaethau brys i reoli digwyddiadau cymhleth. Mae eu gweithwyr proffesiynol tra hyfforddedig yn dod â sgiliau gwerthfawr, arbenigedd, ac offer uwch, gan sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai mewn angen ledled De Cymru.

Dywedodd Dr. Ian Bowler, Anesthetydd Ymgynghorol, Ymgynghorydd Gofal Critigol, a Chadeirydd/Arweinydd Clinigol Medserve Cymru:

“Mae car ymateb Medserve, DR01, a leolir yng Ngorsaf Gwasanaethau Brys Caerffili. Mae Medserve Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio â GTADC ar ffurf Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ynghylch cynnal a chadw ein car ymateb a hyfforddiant ar y cyd pellach.”

Cefnogir y bartneriaeth ymhellach gan Brif Swyddog Cynorthwyol GTADC Brian Thompson a Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddog Monitro Dros Dro, Gabbie Greathead, a ddywedodd mewn datganiad ar y cyd:

“Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cryfhau ein perthynas ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd mentrau a gwaith cydweithredol sy’n arwain at ganlyniadau gwell i’n cymunedau yn eu cyfnod o angen.”

I gael rhagor o wybodaeth am Medserve Cymru, ewch i www.medservewales.org