Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cynnal diwrnod hydwythedd cymunedol yng Nghanol Tref Y Fenni

Yn dilyn tân mawr ar Ddydd Sul y 10fed o Dachwedd yn Siop Elusen The Magic Cottage, Y Fenni, trefnwyd diwrnod aml-asiantaeth yng nghanol y dref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Ar y cyd â Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy, pwrpas y diwrnod oedd cysuro ac ymgysylltu â holl aelodau’r gymuned.

Fe ymgysylltodd Swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn uniongyrchol â pherchnogion busnes lleol, gan gynnig archwiliadau diogelwch, cyngor a gwybodaeth diogelwch tân hanfodol, i helpu perchnogion amddiffyn eu busnesau, eu gweithwyr ac unrhyw bobl eraill o fewn eu heiddo mewn achos o dân.

Dywedodd Rheolwr Gorsaf Jason Lewis, Diogelwch Tân i Fusnesau: “Mae’r fenter hon yn sicrhau bydd busnesau yng nghanol tref Y Fenni wedi’u halinio gyda’u cyfrifoldebau diogelwch tân.

“Roedd ymgysylltu gyda chymuned fusnes amrywiol y dref yn gadarnhaol ac arwyddocaol. Mae digwyddiadau fel hyn yn caniatáu i’r adran Diogelwch Tân i Fusnesau arddangos ei ymdrechion eang i leihau risgiau o fewn y gymuned, dyrchafu diogelwch i ddiffoddwyr tân a chefnogi’r nod ehangach o wneud De Cymru’n ddiogelach.”

Dywedodd Rheolwr Tîm Heddlua Cymdogol (THC), PC Law: “O ganlyniad i ddifrod tân ac eiddo diweddar o fewn Y Fenni, mae’n bwysig ein bod yn mynychu busnesau lleol a siarad â’r cyhoedd i ddarparu cysur, arweiniad a chefnogaeth. Ry’n ni eisiau gwneud pobl yn ymwybodol ein bod yma yn patrolio’r ardal, ac mae modd iddynt gysylltu ag 101 neu, mewn argyfwng, 999.”

Roedd Diogelwch Cymunedol, Swyddogion Recriwtio a chriwiau gweithredol yn neuadd y farchnad yn rhoi cyngor i’r gymuned ehangach ar sut i leihau risg o fewn y carttref a’r ffordd.

 

Fe wnaeth busnesau lleol ac aelodau’r gymuned ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’u partneriaid am eu hymdrechion yn ystod y tân.

Dywedodd Pennaeth yr Orsaf, David Crews: “Fe gynigodd y dydd gyfle i’r holl asiantaethau ddod ynghyd, addysgu a chynnal sgyrsiau â’r gymuned. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bydd ein cymunedau yn ddiogelwch wrth leihau risg.”

“Rydym yn cynllunio i barhau i ymgysylltu â’r gymuned, gyda gweithgareddau pellach i gymryd lle yn y Flwyddyn Newydd.”

Mae’r Fenni yn orsaf dân Ar Alwad, ac ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân. Os hoffech ymuno â ni wrth i ni gadw’ch cymuned yn ddiogel, cewch ganfod mwy o wybodaeth yma.