Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n ymbil ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt
Wrth i’r tywydd wella’n raddol a’r tymhereddau gynyddu ar draws y DG, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn atgoffa’r cymunedau a wasanaethir ganddynt fod y misoedd cynhesaf yn dod â pheryglon yn ei sgil sy’n ymwneud â thanau gwyllt.
Yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, gall glaswellt a mynyddoedd dyfu’n eithriadol o sych, sy’n golygu bydd unrhyw danau a gyneuwyd yn yr awyr agored yn gwasgaru’n gyflym iawn, gan beryglu bywydau ac eiddo yn ogystal â niweidio ein hamgylchedd a bywyd gwyllt.
Yn 2024, mynychodd gwasanaethau tân ar draws Cymru 977 o ddigwyddiadau tanau gwyllt – roedd 391 o’r rhain yn Ne Cymru. Rhwng Dydd Gwener y 14eg a Dydd Mercher yr 19eg o Fawrth 2025 yn unig, mynychodd y gwasanaeth dros 100 o ddigwyddiadau tanau gwyllt, gyda’r rhelyw anferth o’r rhain yn cael eu cofnodi wedi’u cynnau’n fwriadol.
Datganiad gan Reolwr Ardal Matt Jones, Pennaeth Gweithrediadau GTADC:
“Bu’r wythnos hon yn adeg eithriadol o brysur a heriol i’n criwiau a Chyd-reoli Tân, gydag amryfal danau gwyllt ar draws De Cymru’n rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau. Nid yn unig mae tanau gwyllt yn rhoi ein diffoddwyr tân o dan risg ond hefyd yn peryglu ein cymunedau, yn distrywio’r bywyd gwyllt lleol ac yn achosi difrod hirdymor i’n hamgylchedd.
“Mae ein Timau Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio’n agos â Heddluoedd De Cymru a Gwent i ymchwilio a dal y rhai sy’n gyfrifol yn atebol. Mae cynnau tanau’n fwriadol yn ddihid ac ni fydd yn cael ei oddef.
“Ymbiliwn ar y cyhoedd i barhau’n effro, adrodd unrhyw ymddygiad amheus i’r Heddlu a’n helpu ni i ddiogelu ein cymunedau rhag effaith ddistrywiol tanau gwyllt”
Meddai Pennaeth Hyfforddi a Gweithrediadau’r gwasanaeth, Neil Davies: “Mae’r tanau hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau gweithredol, gan gynnwys ein hadran Reoli Tân a’n Diffoddwyr Tân, a’r effaith ar anoddau i ddelio ag argyfyngau eraill. Mae’n drosedd i achosi tanau glaswellt bwriadol sy’n cael ei gategoreiddio’n llosgi bwriadol maleisus, ac sy’n gosbadwy drwy law’r gyfraith.
“Mae’n bwysig dilyn cyngor diogelwch ymarferol a chywir sy’n briodol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae nifer o danau gwyllt y gellir eu rhwystro, ac mae rhai camau syml a newidiadau i ymddygiad a all rhwystro’u nifer a’u heffaith.”
Darllenwch ein cyngor a’n cyfarwyddyd diogelwch am gyfnodau o dywydd poeth a sych:
Byddwch yn ymwybodol o fflamau agored
Ceisiwch osgoi diosg sigarennau a matsis sydd ynghynn, ac unrhyw wrthrychau eraill sy’n fflamio o fewn ardaloedd o laswelltir. Gwaredwch hwy mewn modd cyfrifol mewn cynhwysyddion dynodedig.
Peidiwch byth â gadael tanau heb eu goruchwylio
Os ydych yn gwersylla neu’n cael barbeciw, sicrhewch bydd y tân wedi’i ddiffodd yn llwyr cyn gadael yr ardal. Trochwch ef â dŵr, trowch y llwch ac ail-adroddwch y broses hyd nes na fydd unrhyw gols ar ôl.
Ceisiwch osgoi llosgi dianghenraid yn yr awyr agored
Peidiwch â llosgi gwastraff gardd neu unrhyw ddeunyddiau eraill mewn gwagleoedd agored. Yn hytrach, ystyriwch ddulliau amgen o waredu, megis compostio neu ailgylchu.
Adroddwch weithgareddau amheus
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ymddygiad amheus neu os byddwch yn gweld rhywun yn cynnau tân yn fwriadol, cysylltwch â’r Heddlu ar unwaith neu adroddwch y wybodaeth yn anhysbys i Daclo’r Tacle ar 0800 555 111. Gall eich adrodd amserol atal digwyddiad sydd â’r potensial i fod yn drychinebus.
Cadwch yn wybodus
Talwch sylw at yr amodau tywydd lleol, yn enwedig rhybuddion am gyfnodau o wres mawr a sychdwr. Dilynwch gyngor a chyfyngiadau a gyhoeddwyd gan awdurdodau perthnasol ynglŷn â gweithgareddau awyr agored a diogelwch tân.
Addysgwch blant ynghylch diogelwch tân
Dysgwch blant ynghylch peryglon chwarae â thân a’r canlyniadau posib. Anogwch hwy i adrodd unrhyw bryderon sy’n gysylltiedig â thân i oedolyn cyfrifol.
Mae gennym raglen addysgu eang yn cael ei gynnal mewn ysgolion ledled De Cymru, ac mae ein Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr tir lleol i reoli llystyfiant ar dir preifat a thir comin.
Gall perchnogion tir losgi grug, glaswellt garw, rhedyn ag eithin rhwng y 1af o Hydref a’r 31ain o Fawrth mewn ardaloedd o ucheldir a rhwng y 1af o Dachwedd a’r 15fed o Fawrth ym mhobman arall. Mae gwybodaeth fanwl ar sut i gynnal llosgi dan reolaeth o fewn Cod Llosgi Grug a Glaswellt Cymru, dogfen ffynhonnell agored sydd ar gael ar-lein.
Byddwn yn parhau i weithio â’n cymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy cydnerth. Wrth godi ymwybyddiaeth ynghylch peryglon posib tanau gwyllt, gobeithiwn annog pobl i fod yn fwy gwyliadwrus pan fyddant allan yn mwynhau cefn gwlad ynghyd â bod yn rhagweithiol wrth adrodd gweithgarwch amheus a all arwain at danau.
Meddai Gareth Prosser, rheolwr diogelwch cymunedol Heddlu De Cymru, arweinydd tanau gwyllt y llu: “Mae achosi tanau gwyllt bwriadol yn drosedd gyfreithiol sy’n cael ei gategoreiddio fel llosgi bwriadol maleisus.
“O fewn Heddlu De Cymru, byddwn yn cymryd safbwynt rhagweithiol wrth ddelio â thanau gwyllt bwriadol, gyda phatrolau ychwanegol yn cael eu cynnal.”
Cofiwch – os byddwch yn dod ar draws unrhyw ymddygiad amheus, galwch Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, neu galwch 101. Mewn Argyfwng, galwch 999 ar bob adeg.