Gweithgarwch Diogelwch yn y Dŵr – Parc Dŵr Bae Caerdydd

Ar Ddydd Llun y 24ain o Fehefin, mynychodd tasglu aml-asiantaeth Parc Dŵr Bae Caerdydd i gymryd rhan mewn ymarferiad diogelwch ac achub o ddŵr a gydlynwyd gan Reolwr Gwylfa Richard Ball a Rheolwr Gorsaf Nathan Rees-Taylor.

Gwelodd yr ymarferiad gyfranogiad gweithredol gan amrediad o asiantaethau gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), parafeddygon, aelodau’r Heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a chriwiau o Orsafoedd Canol Caerdydd, Y Barri a Phenarth. Lluniwyd digwyddiadau brys dynwaredol ar y parc  chwyddadwy neu o’i hamgylch er mwyn i’r timau ymarfer eu gallu torfol i ymateb yn effeithlon ac effeithiol i ddigwyddiadau brys sy’n ymwneud â dŵr.

Mae diogelwch yn y dŵr yn brif bryder i’n criwiau, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Mae Richie Matthews, Rheolwr Gwylfa Hyfforddi a Datblygu yn egluro pam:

“Ry’n ni ar fin dioddef ton o wres mawr a dyna pryd mae nifer ein digwyddiadau sy’n ymwneud â dŵr fel arfer yn cynyddu. Mae pobl yn neidio i gorff o ddŵr yn ceisio oeri, ond dy’n nhw ddim yn sylweddoli nad yw’r dŵr yn dwym ar yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Mae risg sioc dŵr oer a risg boddi yn uchel, hyd yn oed mewn dŵr bas. Fy nghyngor i’r rhai hynny sydd eisiau mwynhau’r dŵr yw ymweld â pharciau fel hyn, lle rhoddir dyfais arnofio personol i chi a byddwch yn cael eich gwylio gan y rhai hynny wedi’u hyfforddi’n feddygol rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.”

De Cymru yw un o’r ychydig Wasanaethau sydd â dyletswydd statudol am gyfrifoldeb dros ddŵr mewndirol – gan gynnwys afonydd, llynoedd a chwareli – sydd, yn anffodus, yn boethfannau ar gyfer neidwyr.

Cyrhaeddodd griwiau o Orsafoedd o amgylch Caerdydd oedd â chyfleuster diogelwch dŵr i gynorthwyo aelodau’r cyhoedd a oedd wedi’u ‘hanafu’, yn rhannu’r 19 o gleifion rhyngddynt. Wedi’u harfogi ag offer achub o ddŵr gan gynnwys badau, camera tanddwr, stretsieri chwyddadwy a rhaffau sy’n arnofi, rhannodd a rheolodd y criwiau’r anafusion gydag arbenigedd gan ddefnyddio dulliau blaenoriaethu cydnabyddedig.

Ychwanegodd Richie:

“Ry’n ni wedi cael digwyddiadau lle mae pobl wedi neidio i Fae Caerdydd heb sylweddoli faint o sbwriel a malurion sydd islaw arwyneb y dŵr i’w hanafu neu gael eich dal ynddo. Mae’r ardal o amgylch y parc dŵr wedi’i glirio, felly mae’n lawer tebycach nad ydych chi’n mynd i anafu eich hunan yno.”

Dywedodd Rheolwr Gorsaf Penarth a Chaerdydd, Nathan Rees-Taylor:

“Fe wnaeth yr ymarferiad yma ganiatâu i ni ddynwared amryw senario critigol, gan gynnwys ataliad ar y galon, achubiadau o ddŵr, anafiadau posib i’r cefn a’r pelfis, pobl sydd wedi mynd ar goll yn y dŵr ac anafiadau niferus sydd angen sylw meddygol cydamserol.

“Ry’n ni’n hapus iawn â’r ffordd yr aeth yr ymarferiad hyfforddi, ac mae’n destament i’r cydberthnasau cryf ry’n ni wedi adeiladu, yn ogystal ag ymroddiad parhaus i wella ein protocolau diogelwch dŵr. Rwyf am estyn fy niolch diffuant i bawb sydd ynghlwm am eu gwaith caled a’u hagwedd broffesiynol. Mae eich ymdrechion nid yn unig wedi dyrchafu ein parodrwydd, ond hefyd wedi atgyfnerthu ein cyd-genhadaeth i sicrhau diogelwch a llesiant y cyhoedd.”

Mae’r parc dŵr, a agorodd yn 2019, yn trefnu diwrnodau diogelwch unwaith y flwyddyn. Dywedodd Rheolwr Georgina:

“Ry’n ni’n fusnes hafaidd, felly nid ydym ar agor gydol y flwyddyn, ond ry’n ni’n gwneud ein holl hyfforddiant mewnol ein hunain. Mae’n dda i’r tîm allu ymarfer hyfforddiant prif ddigwyddiadau gyda’n partneriaid fel hyn i gael ymdeimlad o sut dylent ymateb. Diolch byth, ry’n ni heb brofi digwyddiad lle bu rhaid i ni alw am y Gwasanaeth Tân hyd yn hyn, ond mae’n bwysig i gadw mireinio’r sgiliau, gan eich bod chi byth yn gwybod pryd bydd eu hangen.”

I ganfod mwy am gyngor diogelwch yn y dŵr, gwelwch ein gwefan https://www.southwales-fire.gov.uk/your-safety-wellbeing/your-community/water-safety/