Gweithio Gyda Phartneriaid yn Atal 10 hectar o Danau Gwyllt yng Nghaerffili Rhag Dyblu Mewn Maint
Mae Tîm Tanau Gwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn defnyddio technegau arbenigol i helpu atal tanau gwyllt rhag lledaenu a dinistrio cefn wlad Cymru. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein criwiau wedi mynychu dros 500 o danau gwyllt a osodwyd yn fwriadol, sy’n peryglu bywydau ein diffoddwyr tân ac yn gallu lledaenu fel eu bod yn beryglus o agos i eiddo, gan achosi perygl difrifol i fywyd.
Mae’r tanau hyn wedi ymledu gan ddinistrio llawer o hectarau o laswelltir, ac yn effeithio ar fywyd gwyllt ac ecosystemau yn eu ffordd. Maent hefyd yn achosi straen ar adnoddau brys gan fod angen presenoldeb nifer o beiriannau tân ac offer critigol. Yn ogystal ag achosi difrod i eiddo a’r amgylchedd, gall yr holl fwg trwchus o’r tanau hyn gynyddu’r risg i bobl sy’n agored i niwed â chyflyrau meddygol. Yn ddiweddar, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg a achosir gan danau gwyllt i ddioddefwyr COVID-19 a allai fod yn byw gerllaw.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i leihau nifer y tanau bwriadol a lleihau’r risg os bydd tân yn torri allan.
Mae Uned Troseddau Tân y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o ddigwyddiadau fel hyn yn cynnal gweithgareddau atal gan gynnwys y dechneg lwyddiannus o dorri atalfeydd tân mewn llystyfiant i atal tanau rhag lledu.
Ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, mae diffoddwyr tân wedi bod wrthi’n torri’r atalfeydd hyn yn bennaf ar lwybrau a llwybrau bach o gwmpas coedwigoedd ac yn agos at, ac o amgylch, eiddo preswyl a masnachol. Mae’r syniad o dorri ar lwybrau bach yn darparu lloches ddiogel i’r cyhoedd ac yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth ardal mewn achos o dân. Mae diffoddwyr tân arbenigol yn defnyddio Ffust Fecanyddol i greu’r atalfeydd sy’n rhagweithiol wrth atal tanau rhag lledaenu, yn ogystal â helpu i agor lleoliadau nad oedd modd eu cyrraedd o’r blaen achos maint y llystyfiant.
Enghraifft ddiweddar o hyn yw digwyddiad ar Gomin Rudry yng Nghaerffili yn ystod yr wythnos diwethaf (Dydd Iau, y 14eg o Fai 2020) pan losgodd tân a osodwyd yn fwriadol ar draws deg hectar o dir mynydd ond a arafodd ar ôl cyrraedd atalfa dân a dorrwyd o’r blaen. Roedd hyn yn caniatáu i ddiffoddwyr tân ddiffodd y tân yn gyflym ac yn effeithiol, gan ei rwystro rhag lledaenu’n i gyffiniau eiddo, gan hefyd gynnig llwybr dianc i fywyd gwyllt.
Mae’r Uned Troseddau Tân yn gweithio fel rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu amlasiantaeth Cymru gyfan a gefnogir gan amrywiaeth o bartneriaid a’u nod yw lleihau’r dinistr amgylcheddol heb ei reoli a’r bygythiad posibl i fywydau ac eiddo ganlyniad i danau gwyllt bwriadol. Mae’r tîm yn rhannu syniadau newydd yn barhaus i leihau’r risg o danau o’r fath ac maent yn parhau i fapio lleoliadau a fyddai’n elwa o gael atalfeydd tân a thechnegau eraill mewn ymgais i leihau’r niwed sy’n gysylltiedig â thanau gwyllt. Cyn torri’r atalfeydd, mae’r tîm yn cynnal arolygon safle, ac yn ceisio atal ymyrraeth ag adar sy’n nythu a bywyd gwyllt arall sy’n byw yno cyn dechrau torri.
Yn anffodus, mae llawer o’r tanau’n cael eu cynnau’n fwriadol gan dynnu adnoddau gwerthfawr o’n cymunedau, gan beryglu bywydau’n ddiangen.
Byddem yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau bwriadol posib, neu’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â ni ar 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Os gwelwch chi dân, neu unrhyw un yn dechrau tân, ffoniwch 999 ar unwaith.