Gwobrau GO: Cyrraedd Rownd Derfynol Ymateb Eithriadol yng Nghyfnod COVID-19
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer ‘Ymateb Eithriadol COVID-19’ ar gyfer Gwobrau GO Cymru 2020/21.
Mae Rhagoriaeth GO Gwobrau Caffael Cyhoeddus wedi’u neilltuo i arddangos sefydliadau sy’n arwain y ffordd o ran arfer gorau ym maes caffael cyhoeddus yn ogystal â chydnabod rhagoriaeth mewn caffael cyhoeddus a chadwyn gyflenwi’r DU.
Mae’r wobr hon yn gyflawniad aruthrol sy’n amlygu’r gwaith rhyfeddol a gyflawnodd ein Tîm Caffael yn ystod cyfnod anodd iawn i ni fel Gwasanaeth.
Mae caffael yng Nghymru yn esblygu’n gyflym ac o ystyried effeithiau COVID-19 ar ein heconomi mae’n anochel y bydd darparu gwasanaethau cyhoeddus ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau’n ddarbodus. Mae Gwobrau GO Cymru, sy’n agored i’r holl sefydliadau o fewn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cydnabod y gwaith caled a’r ymroddiad sy’n atgyfnerthu’r ddarpariaeth mewn gwasanaethau hanfodol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i sefydliadau godi eu proffil proffesiynol a chael cydnabyddiaeth gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn arwain y ffordd ym maes caffael yng Nghymru.
Llongyfarchiadau mawr i bawb arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac edrychwn ymlaen at seremoni Gwobrau GO Cymru a drefnir ar gyfer y 29ain o Ebrill.