Gwobrau Gwasanaeth Hir Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 2024
Nos Iau 28ain Tachwedd, cydnabu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ymddygiad rhagorol cydweithwyr ac aelodau o’r gymuned yn y noson wobrwyo flynyddol a chyflwyno Gwasanaeth Hir.
Cafodd y noson ei chyflwyno gan y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Dean Loader, gydag anerchiad croesawgar gan y Comisiynydd Vij Randeniya, gwahoddwyd cydweithwyr a’u teuluoedd i ddathlu gwasanaeth anhunanol a phroffesiynoldeb personél.
Ymhlith y gwesteion roedd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Morgannwg Ganol yr Athro Peter Vaughan, maer a maeres yr Awdurdod Unedol; Uchel Siryfion, a Swyddogion GTADC a Phenaethiaid Adrannau.
Cyflwynwyd y gwobrau Gwasanaeth Hir a gwobrau Ymddygiad Da gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Morgannwg Ganol yr Athro Peter Vaughan, y Comisiynydd Vij Randeniya, a’r Prif Swyddog Tân Fin Monahan.
Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da – 20 mlynedd o wasanaeth
Medal y Frenhines:
Medal y Brenin:
Clasbiau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da – 30 blynedd o wasanaeth
Clesbyn y Frenhines:
Clesbyn y Brenin:
Tystysgrifau Gwasanaeth Hir i Staff Corfforaethol
Daeth Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi â chyflwyno’r gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da i ben, gan ddiolch i’r sawl a’u derbynwyd am eu gwaith caled: “Rydych chi’n derbyn y medalau a gawsoch gennyf fi, ar ran y Brenin, fel diolch am bopeth a wnewch, eich teuluoedd chi yw’r bobl sy’n caniatáu i’n diffoddwyr tân i ddod i’r gwaith bob dydd. Heb eu cefnogaeth hwythau, ni allent wneud y gwaith y maent yn ei wneud.”
Y cam nesaf yn y seremoni oedd cyflwyno’r Gwobrau Rhagoriaeth, gan gydnabod staff arloesol ac ysbrydoledig GTADC ac aelodau o’n cymunedau am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb sy’n cyflawni llawer mwy na’r hyn y mae eu dyletswyddau’n gofyn amdani.
Galwyd ar Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi, y Prif Swyddog Tân Fin Monohan a’r Comisiynydd Vij Randeniya i gyflwyno’r gwobrau.
Cyflwynwyd gwobrau’r Prif Swyddog Tân a ganlyn:
Cymeradwyaeth y Prif Swyddog Tân:
Llythyr Llongyfarch:
Gwobr Rhagoriaeth Weithredol:
Arwr Anhysbys:
Perfformiad Tîm Rhagorol:
Rhagoriaeth mewn Arloesedd:
Gwobr Arwr Anhysbys:
Gwobr Ymrwymiad i Amrywiaeth:
I gloi’r noson diolchodd y Prif Swyddog Tân Fin Monahan i bawb am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb wrth wasanaethu, gan gynnwys y staff corfforaethol a gwisg ill ddau.