Gwobrau Pride of Gwent 2021
Adroddwyd nifer o straeon dyrchafol ac arwrol yng Ngwobrau Pride of Gwent y South Wales Argus 2020/2021 eleni a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru.
Mae Gwobrau Pride of Gwent yn agored ar gyfer enwebiadau cyhoeddus ac enwebwyd ein harwyr anhysbys ar gyfer “Gwobr y Cyflawnydd” a’r “Wobr Achub Bywyd” ill dau.
Bu Nicola Wheten, a enwebwyd ar gyfer “Gwobr y Cyflawnydd”, yn treulio amser wrth greu hwb newydd blaengar a ddatblygwyd â chyllid o £30,000 gan Lywodraeth Cymru. Darparodd gartref cost effeithiol a blaengar ar gyfer ymgysylltu diogelwch cymunedol cyfoes. Yn ogystal, mae’n arfogi partneriaid â’r dechnoleg a’r buddsoddiad cywir i gyflawni gwaith partner a gwasanaethau diogelwch cymunedol ardderchog. Mae cymunedau ledled De Cymru wedi elwa o’r hwb a byddant yn parhau i wneud felly am flynyddoedd i ddod, a’i fwriad yw cryfhau hyder cymunedol drwy law gweithio effeithiol.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Troseddau a Chanlyniadau, Nicola Wheten, a dderbyniodd y gydnabyddiaeth uchaf ar gyfer “Gwobr y Cyflawnydd”: ‘‘Rwy’n teimlo’r anrhydedd o dderbyn gwobr o’r fath, yn enwedig gan fod cynifer o gystadleuwyr anhygoel yn cymryd rhan. Fodd bynnag, mae’r wobr hon yn un i bawb a’m cynorthwyodd gyflawni gweledigaeth yr hwb. P’un ai wrth adeiladau celfi, paentio, cynnig gair o anogaeth, gwisgo’r menig rwber neu gadw cwmni i mi yng nghanol holl anhrefn yr ailwampio.
Mae’n anhygoel beth ellir ei gyflawni gyda thîm cefnogol a chadarnhaol, heb sôn am y partneriaethau allanol a floeddiodd ar hyd y daith, gyda nifer yn gyfeillion da erbyn hyn. Mae’r Hwb wedi gwella a hyd yn oed achub bywydau’r rhai hynny yn y gymuned ac rwy’n eithriadol o falch o’r hyn rydym wedi llwyddo i’w gyflawni.”
Dewiswyd Gwylfa Goch Malpas, a enwebwyd ar gyfer y ‘Wobr Achub Bywyd’, am eu hymdrech arwrol wrth achub claf oedd yn boddi mewn dŵr yn ei lawn lif yn Afon Wysg, Casnewydd. Yn ystod yr achubiad, aeth diffoddwyr tân i’r dŵr i achub y claf a’i dynnu i fwrdd eu cwch achub er mwyn achub ei fywyd.
Rydym am ddweud llongyfarchiadau anferth i Nicola a Gwylfa Goch Malpas ill dau. Mae’r gwaith a gyflawnwyd gennych yn dorfol nid yn unig yn portreadu eich tosturi, eich dewrder a’ch caredigrwydd ond hefyd, mae’n adlewyrchiad o’ch cyrhaeddiad a’ch ymroddiad i wneud De Cymru’n le diogelach.
I gael cyfle i ddarllen am bob un o’r enillwyr ardderchog yn atodiad arbennig Pride of Wales, bydd yr holl wybodaeth ar gael drwy law’r South Wales Argus ar Ddydd Iau, Mawrth y 18fed.