Her Ddatglymu Ranbarthol Cymru Sefydliad Achub y Deyrnas Unedig (UKRO) 2024

Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru her Ranbarthol Ddatglymu, Trawma a Rhaffau Cymru UKRO Ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill yn ei Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd.

Bu timau o’r tri gwasanaeth tân ac achub Cymreig yn cystadlu am y safle uchaf ym mhob categori, er gwaethaf y dilyw o gawodydd Ebrill, gyda De Cymru’n cael ei chynrychioli gan Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, a’r ‘Dreigiau’, ynghyd â’r tîm rhaffau, a’r pedwar tÎm trawma.

Roedd y gystadleuaeth yn frwd, gyda’r her yn cynnwys 4 tîm rhaff, 9 tîm rhyddhau, a 10 tîm trawma yn cystadlu yn eu categorïau priodol.

Darparwyd gweithdai trawma hefyd gan AN Taurus, Sim Bodies, a Cas-Strap i gynorthwyo dysgu, a chefnogwyd y diwrnod ei hun gan TESLA a darparodd weithdai cerbydau trydan.

Yn ystod yr her trawma gwelwyd Nathan Moyle a Rob Buckley (tîm trawma Canol Caerdydd) yn rhannu’r safle cyntaf gyda Beth Barton a Tia Magan, a Jade Blackmore a Nick Jones o Drelái yn ail, gydag Oliver Roberts a Corey Elkins, hefyd o Drelái, yn cipio’r pedwerydd safle.

  • Daeth tîm rhaffau GTADC yn 1af yn gyffredinol
  • Cymerodd Gwylfa Las Malpas ran yn her CPR, gan ennill y wobr gyntaf
  • Yn y Datglymu daeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gyntaf, Porthcawl yn ail, y Dreigiau yn drydydd,

Datglymu Cyffredinol:

1af Pen-y-bont ar Ogwr

2il Avon

3ydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon

4ydd Manceinion Fwyaf

5ed Porthcawl

6ed Gogledd Cymru

7fed Y Dreigiau

8fed Swydd Surrey

9fed Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Da iawn i’r holl dimau a gystadlodd, a llongyfarchiadau i bawb ddaeth â’r tlysau adref

.