Mae ein criwiau wedi mynychu nifer o danau domestig yn ystod yr wythnosau diwethaf ac o ganlyniad, hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bwysleisio pwysigrwydd dilyn cyngor diogelwch yn ymwneud â thanau agored.
Cofiwch;
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio tanau agored a stofiau llosgi coed tân. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio gwarchodwr tân i’ch diogelu rhag gwreichion yn hedfan o farwydos poeth
- Gwnewch yn siŵr fod marwydos dan reolaeth ac wedi eu diffodd yn iawn cyn i chi fynd i’r gwely
- Cadwch y simneiau a’r ffliwiau’n lân ac mewn cyflwr da
- Peidiwch â chadw coed tân na thanwydd wrth ymyl tanau agored a stofiau llosgi coed tân
Am fwy o wybodaeth;
National Association of Chimney Sweeps
Lawrlwythwch Llyfryn Diogel ac Iach