Lansiodd sesiwn rheolwr canol ein hadolygiad o werthoedd
Mae’r momentwm tuag at wneud newid cadarnhaol yn parhau i ddigwydd yn gyflym ac archwilio elfennau o ddiwylliant y sefydliad oedd y ffocws yn y sesiynau rheolwyr canol diweddaraf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yr wythnos hon. Lansiodd y sesiwn yr adolygiad gwerthoedd a chanolbwyntiodd ar wreiddio’r cod moeseg mewn diwylliant a gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd.
Dan arweiniad Prif Swyddog Tân Fin Monahan, bu’r grŵp yn trafod sut mae diwylliannau’n cael eu ffurfio, a’r pethau sy’n effeithio arnynt. Roedd hyn yn cynnwys seremonïau a chydnabyddiaeth, digwyddiadau gweithredol, busnes o ddydd i ddydd, yn ogystal ag ymrwymiadau i amrywiaeth a chynhwysiant, cydlyniant a thegwch, lles a brand a hunaniaeth.
Gyda’r nod o symud y sefydliad yn ei flaen a’i wneud yn lle gwych ar gyfer cydweithwyr a chymunedau De Cymru, gofynnodd y sesiwn i reolwyr ledled y sefydliad am eu barn am yr hyn sy’n dda a’r hyn nad yw cystal ac elfennau o ddiwylliant, a sut y gallwn symud ymlaen a newid, yn ogystal â sut rydym yn defnyddio’r cod moeseg ym mhopeth a wnawn.
“Yn ei hanfod, diwylliant yw’r ‘ffordd yr ydym yn gwneud pethau yma’ ac mae’n cwmpasu llawer o bethau megis ffyrdd o weithio, agweddau a thybiaethau, yn ogystal â pholisïau, ffrydiau gwaith ac ymateb gweithredol – profwyd bod hyn yn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithredol, ”dywedodd y Prif Swyddog Tân Fin Monahan.
“Mae diwylliant yn sail i sefydliadau rhagorol. Er mwyn gwasanaethu’r 1.5 miliwn o bobl yn Ne Cymru rydym yn ceisio gwella ein rhagoriaeth weithredol.”
Fel rhan o hyn mae’n rhaid i ni wreiddio cod moeseg gwasanaeth profedig y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CCPT) yn ein holl waith. Rhaid i ni hefyd ddatblygu a chytuno ar yr hyn y dylai ein gwerthoedd fod. Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn hyderus yn y modd yr ydym yn arwain, yn gweithio ac yn cyflawni’r holl ystod o’n dyletswyddau diffodd tanau. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys pobl o bob rhan o’r sefydliad – rydym yn dîm o dimau, gyda phob un yn chwarae ein rhan ac yn gweithio gyda’n gilydd i amddiffyn ein cymunedau.
Gofynnwyd i reolwyr fynd â chynnyrch y sesiwn yn ôl i’w timau a chasglu syniadau a mewnwelediadau cydweithwyr. Rydym yn gofyn i’n sefydliadau partner yn ein cymunedau a’r sector cyhoeddus yng Nghymru am eu mewnwelediad hefyd.
Ychwanegodd Dominic Mika, Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid, “Rydym yn gwybod bod ein staff yn allweddol wrth wneud newid parhaol ac mae cymryd rhan yn y gweithdy hwn yn rhoi cyfle i bawb ddarganfod mwy a dweud eu dweud. Y cod moeseg craidd yw ein map ffordd ar gyfer ymddygiad a sut rydym yn gweithredu a’n gwaith ni yw deall ei berthnasedd i’r rhan yr ydym yn ei chwarae wrth amddiffyn ein cymunedau.
“Dyma garreg filltir arall ar y ffordd i gyflawni’r newidiadau rydym wedi ymrwymo i’w gwneud.
“Bydd y mewnwelediad a gasglwyd yn cael ei gyfuno a’i adolygu a’i rannu yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Rydym wedi gofyn i bob rheolwr neilltuo amser cyn y Nadolig i drafod hyn gyda’r timau, er mwyn i bawb gael dweud eu dweud ar sut y bydd ein gwerthoedd yn y dyfodol yn sicrhau ein bod yn parhau i wella a gwasanaethu ein cymunedau hyd eithaf ein gallu.”
Atodiad
Cod Moeseg
Dylid gwreiddio’r egwyddorion ym mhopeth a wna’r Gwasanaeth. Byddwn yn sicrhau bod egwyddorion y Cod Moeseg hwn yn cael eu cynrychioli mewn polisïau a phrosesau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gwreiddio a’u bod wrth galon gweithgarwch o ddydd i ddydd.