Diwrnod Agored Llanilltud Fawr

Tywynnodd yr haul ar ymwelwyr Diwrnod Agored Gorsaf Gwasanaethau Brys Llanilltud Fawr, a gynhaliwyd Ddydd Gwener, y 26ain o Orffennaf.

“Dyma’r trydydd diwrnod agored i ni ei gynnal yn Llanilltud Fawr, ac mae’n wych gweld pawb yn mwynhau eu hunain,” esboniodd Rob Grapes, y Rheolwr Gwylfa .

“Mae’n dda i’r gymuned wybod pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud, ac mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn helpu i godi ysbryd y gymuned,” parhaodd.

 

Trefnwyd y digwyddiad gan Heddlu De Cymru (HDC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC). Hefyd yn bresennol oedd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Gwylwyr y Glannau EM, sydd i gyd yn gweithredu o hen Orsaf Dân ac Achub Llanilltud Fawr.

Roedd offer a cherbydau gwasanaethau brys gan gynnwys Tendr Achub Gorsaf Dân Trelái, beic modur a fan terfysg yr heddlu, a chwch gan Orsaf Dân y Barri ar gael i ymwelwyr edrych o’u gwmpas, a thynnu lluniau.

Roedd y diwrnod agored, a gynhaliwyd yn ystod wythnos gyntaf gwyliau haf yr ysgol, yn ddigwyddiad croesawgar, yn rhad ac am ddim i rieni a theuluoedd oedd yn mynychu.

Dywedodd Georgina Phelps, aelod o’r gymuned leol a fynychodd y digwyddiad: “Mae’n fendigedig cael rhywbeth fel hyn ymlaen yn lleol i’r plant, yn enwedig yn ystod gwyliau’r haf. Mae fy nau blentyn, Toby a Sullivan, wedi mwynhau gweld yr holl wahanol gerbydau gwasanaethau brys, yn enwedig yr offer cychod dŵr.”

Cyflwynodd Toby, ei mab tair oed, lun yr oedd wedi’i wneud i’r Gwasanaeth Tân fel ffordd i fynegi ei ddiolch am y diwrnod. Ychwanegodd Georgina: “Mae wedi bod yn ddiwrnod mor dda. Mae gan Toby ddiddordeb mawr yn y Gwasanaeth Tân a dywedodd ei fod eisiau rhoi rhywbeth i ddiolch iddyn nhw Heddiw,” ychwanegodd.

Roedd aelodau Cyngor Bro Morgannwg, Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, ac adrannau Diogelwch Cymunedol a Recriwtio GTADC hefyd wrth law i ddarparu detholiad o nwyddau a gwybodaeth, gan gynnwys atal trosedd a chyngor recriwtio.

Cynhaliodd Jo Sutton, Profiad Cleifion a Chynnwys Cymunedau, WAST, sesiwn yn dangos sgiliau achub bywyd i grwpiau o blant trwy gydol y dydd.

“Rwyf wedi arddangos CPR – yn enwedig y broses o sut i wirio anadlu a chywasgu,” esboniodd Sutton.

“Rwyf hefyd wedi dysgu am ba arwyddion y dylid eu hystyried rhag ofn y bydd ataliad ar y galon yn ogystal â dulliau eraill o sut y gall pobl helpu wrth aros am ambiwlans.

“Mae’r math yma o ddigwyddiad yn fodd arbennig o dda i helpu adeiladu hydwythdedd cymunedol, a meithrin cydberthnasau â phersonél gwig, fel na fyddai dod ar ein traws fel mewn sefyllfa argyfwng gwirioneddol yn gymaint o sioc,” dywedodd  wrth gloi.

Cynhaliwyd dau arddangosiad o wrthdrawiadau ar y ffyrdd. Drwy ddangos a dweud cafodd y dorf ei rhyfeddu wrth weld y broses achub o safbwynt y Gwasanaeth Tân.

“Mae’n bwysig dangos datglymu claf mewn modd diogel a rheoledig,” ychwanegodd Rheolwr Gwylfa Grapes.

“Rydyn ni’n esbonio pam rydyn ni’n defnyddio offer a dulliau penodol, ac rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i aelodau’r cyhoedd weld a chwrdd â chriwiau o’u Gorsafoedd lleol. Gall cydnabod yr unigolion sy’n cynorthwyo helpu i roi sicrwydd ychwanegol os byddant byth yn y sefyllfa anffodus o fod angen eu hachub,” dywedodd wrth orffen.

 

O ran yr heddlu, roedd plant yn gallu cael eu holion bysedd wedi’u cymryd i’w gosod mewn cylchau allweddi i gofio’r achlysur. Cawsant hefyd becyn ac offer ‘ymarferol’ ar gyfer lleoliadau trosedd arbenigol.

Eglurodd cyd-drefnydd y digwyddiad, y Swyddog Diogelwch Rhingyll Chris Thomas:

“Mae gwaith partneriaeth da yn hanfodol i’r gwasanaethau brys – mae’n gwneud bywyd yn haws i bawb ac yn ein helpu i ddarparu gwell gwasanaeth i’r cyhoedd. Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn ein helpu i wella ein perthynas â’r gymuned, sydd yn ei dro yn helpu i atal a lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae’r digwyddiad heddiw ar gyfer pobl o bob cefndir, ac mae wedi bod yn dda iawn gweld cymaint yn mwynhau eu hunain.”

Daeth y diwrnod i ben yn dda i gefnogwyr Sbarc, masgot GTADC, a enillodd yn erbyn masgot yr heddlu Billy Blue mewn ras ar droed. Yn anffodus cwympodd Billy, wrth i’r ddau nesau at y llinell derfyn, er mawr lawenydd i’r dorf.