Lula a’r Fflam
GTADC yn lansio prosiect ysgrifennu llyfrau i helpu lledaenu ymwybyddiaeth diogelwch rhag tân ymysg plant ysgolion cynradd
Bu plant o chwe ysgol gynradd ar draws Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda’i gilydd ag arbenigwyr lleol i ysgrifennu stori am grwban o’r enw Lula, sy’n mynd i helynt â thân gwyllt wrth iddi geisio dod o hyd i wres.
Mae’r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol (TLl Ll B), law yn llaw â phartneriaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu De Cymru (HDC), wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i gyd-sgwennu llyfr i blant sy’n amlygu’r peryglon gall tanau bwriadol achosi. Y gobaith yw bydd y llyfr yn cael ei ddefnyddio fel arf addysgiadol gan awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys ac ysgolion eraill i addysgu plant ynghylch peryglon tân.
Mae’r stori’n dilyn crwban o’r enw Lula sydd, wedi’i themtio gan fflam gyfeillgar ond digwmni yn y goedwig, yn cynnau pen cangen i gadw’n gynnes – gan ryddhau’r fflam o’i gylch carreg. Mae Lula’n dod ar draws mochyn daear crac, sy’n ei cheryddu am fod mor ddiniwed:
“Oes gen ti unrhyw syniad beth all tân wneud i’r coedwigoedd hyn? Does dim ond angen un sbarc, ti’n gwybod.”
Mae’r tân yn tyfu i fod allan o reolaeth yn gyflym, ac mae’n rhaid i’r anifeiliaid sydd o fewn y goedwig redeg am eu bywydau.
Mae gwasanaethau tân ledled Cymru yn mynd i’r afael â thanau glaswellt bwriadol blwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod tymor y gwanwyn; wedi’u hachosi gan gymysgfa o ymddygiad gwrthgymdeithasol, preswylwyr yn llosgi gwastraff a ffermwyr a thirfeddianwyr yn llosgi glaswelltir y tu allan i’r dyddiadau a ganiateir i losgi dros y gaeaf.
Yn wreiddiol, Mike Hill, Rheolwr Gorsaf – Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol – ddaeth â’r syniad i rym o ysgrifennu’r llyfr, ac mae e wedi bod yn goruchwylio cyflawni’r prosiect, a gwmpasodd wyth sesiwn creadigol wythnosol.
Dywedodd Mike:
“Ein nod yw lleihau’r distryw amgylcheddol afreolus a’r bygythiad posib i fywydau ac eiddo sy’n deillio o danau glaswellt a gynheuwyd yn fwriadol.
“Fe wnaethom ddethol yn ofalus chwe ysgol gynradd wahanol yn y Rhondda, ac enwebwyd pedwar plentyn o bob ysgol i ymuno â’r prosiect. Dewiswyd Rhondda Cynon Taf gennym gan ei fod yn un o’r ardaloedd sy’n dioddef fwyaf pan ddaw at gynnau tanau bwriadol.
“Cawsom fewnbwn gan arbenigwyr o du fewn a thu allan i GTADC. Daeth ecolegydd o Gyfoeth Naturiol Cymru i mewn i drafod pob agwedd o ecoleg: gan ddysgu’r plant ynghylch sut all planhigion a bywyd gwyllt gael eu heffeithio gan dân gwyllt. Cafwyd mewnbwn gan yr heddlu ac yn amlwg roedd ein gwybodaeth o beryglon tanau gwyllt yn flaenllaw ym mhlot y stori.
“Mae bob un ohonom yn gyffrous iawn i weld y cynnyrch terfynol a gobeithio bydd yn cael effaith barhaol ar ysgolion a chymunedau Rhondda Cynon Taf.”
O’r 19eg – 21ain o Fawrth, bydd y llyfr yn cael ei gyflwyno yn y chwe ysgol a fynychir gan y plant oedd ynghlwm â’r prosiect, yn ystod y cyfnod sydd fel arfer yn nodi cychwyn tymor y tanau gwyllt. Bydd aelodau’r sefydliadau partner hefyd yn mynychu i ddangos eu cefnogaeth.
Mae GTADC yn dymuno diolch i’r plant am eu creadigrwydd ac wrth ein helpu ni i ledaenu’r gair ynghylch peryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol a thanau bwriadol.