Mae Gorsaf Dân Penarth gweithio mewn partneriaeth â grŵp theatr o fri i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae Gorsaf Dân Penarth gweithio mewn partneriaeth â grŵp theatr o fri i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae Gorsaf Dân Penarth yn falch o gyhoeddi estyniad o’i phartneriaeth gyda grŵp lleol Theatr na nÓg yn dilyn llwyddiant digwyddiad cymunedol diweddar a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.

Bydd cyfres o weithdai a pherfformiadau o’r perfformiad rhyngweithiol arobryn, ‘Just Jump’ yn cael eu hailadrodd o’r 3ydd i’r 7fed o Fehefin yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, i amlygu’r peryglon sy’n gysylltiedig â dŵr agored ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis nofio  mewn dyfroedd heb oruchwyliaeth a neidio neu ddeifio o uchder i ddŵr/’ – sef neidio o greigiau neu strwythurau uchel iawn i mewn i ddŵr gan gadw’r corff yn syth.

Y Mae ‘Just Jump’ wedi’i chomisiynu gan Awdurdod Harbwr Caerdydd a Chelfyddydau & Busnes Cymru ac yn stori drist gyda diweddglo trist, sy’n sicrhau bod gan bobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau diogel, a hynny wrth i ni agosáu at fisoedd cynhesach yr haf.

Yn ogystal â dros 500 o aelodau’r cyhoedd, bu i’r ymdrech gydweithredol rhwng Gorsaf Dân Penarth a grŵp Theatr na nÓg weld tua 600 o ddisgyblion ac athrawon o 10 ysgol ar draws De Cymru yn cymryd rhan mewn addysg diogelwch dŵr hanfodol, yn ystod y digwyddiad cymunedol a gynhaliwyd rhwng 20fed-24ain o Fai.

Gyda phob gwylfa o Orsaf Dân Penarth, cymerodd plant ysgol 8-10 ran mewn cystadlaethau a dysgon nhw dechnegau achub bywyd megis arnofio i fyw a chamau amrywiol achub o ddŵr.

Disgrifiodd Rheolwr Gorsaf Nathan Rees-Taylor y digwyddiad fel “platfform deinamig a deniadol i addysgu a hysbysu”.

“Rydym yn falch dros ben o lwyddiant y digwyddiad hwn. Mae’r cydweithio gyda grŵp Theatr na nÓg a’r ymroddiad y gymuned wedi bod yn rhagorol. Mae’n hanfodol bod ein pobl ifanc yn deall peryglon dŵr agored ac yn gwneud penderfyniadau gwybodus, yn enwedig wrth mae’r tywydd yn cynhesu,” ychwanegodd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys myfyrwyr o ysgolion Cymraeg o bob rhan o dde Cymru.