Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Pride Cymru

Ar Ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin, fe wnaeth aelodau staff ledled Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gwrdd yng Nghastell Caerdydd i ddangos eu cefnogaeth i’r gymuned LHDATH+ wrth fynychu gorymdaith flynyddol Pride Cymru.

Yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oedd mwy na 30 o gydweithwyr o ar draws y Gwasanaeth – o Ddiffoddwyr Tân i staff Rheoli, staff corfforaethol ac uwch arweinwyr – daeth rhai hyd yn oed â’u plant ynghyd i gymryd rhan yn nathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Fel Gwasanaeth, rydym yn angerddol ynghylch cadw pawb yn ein cymunedau’n ddiogel, a bod yn gyflogwr sy’n adlewyrchu’r holl bobl rydym yn gwasanaethu. Nid yw tân yn gwahaniaethu – ac nid ydym ni chwaith!

Diolch i’n holl staff a’n gwirfoddolwyr a roddodd eu Dydd Sadwrn i orymdeithio gyda balchder yn yr orymdaith, ac i’r rhai hynny a weithiodd yn stondin y farchnad yn ardal yr Ŵyl, gan rannu cyngor diogelwch yn y cartref a recriwtio gwerthfawr.

Ry’n ni’n edrych ymlaen yn barod at orymdaith Pride y flwyddyn nesaf!