Bu aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arddangos technegau diogelwch dŵr mewn digwyddiad yn y Senedd

Bu aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arddangos technegau diogelwch dŵr mewn digwyddiad yn y Senedd

Bu aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arddangos technegau diogelwch dŵr mewn digwyddiad yn y Senedd

Yng ngoleuni’r ystadegyn brawychus sy’n dangos bod 45 o bobl ar gyfartaledd yn boddi yng Nghymru bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogi gweledigaeth o Gymru heb foddi gyda chyhoeddi pecyn ariannu i Ddiogelwch Dŵr Cymru – sy’n gydweithrediad o sefydliadau partner â diddordeb mewn diogelwch dŵr ac atal boddi.

Yn y digwyddiad o’r enw ‘Cymru heb foddi: Ein gweledigaeth ar y cyd’ a gynhaliwyd ar yr 8fed o Fai yn y Senedd, gwahoddwyd gwesteion i wrando ar siaradwyr. Yn eu plith oedd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Leeanne Barclay, mam mewn profedigaeth a gollodd ei mab 18 oed Mark o ganlyniad i foddi, yn ogystal ag aelodau eraill o’r mudiad wedi ymrwymo i wneud dyfrffyrdd Cymru yn ddiogel i bawb.

Diolchwyd i dîm atal boddi GTADC am fynychu a’u gwaith ar y diwrnod, oedd yn cynnwys  arddangos y defnydd o linellau taflu achub bywyd ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd. Arweiniwyd yr arddangosiad gan Rachael Baralos, Ymarferydd Cymunedol Diogelwch Dŵr a Ffyrdd GTADC, gan ddysgu’r Aelod o’r Senedd, John Griffiths, sut i daflu’r bag â phwysau oedd yn cynnwys llinell adalw 20 metr yn iawn.

 

Sylwodd Rachael:

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn mynychu llawer o ddigwyddiadau achub o’r dŵr, felly rhan bwysig o’n rôl yw addysgu pobl sut i ddefnyddio offer megis y llinellau taflu.

“Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n mynd i drafferthion yn bwriadu mynd i mewn i’r dŵr, felly mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth mewn lleoliadau fel hyn.

Ar ôl marwolaeth Mark, addawodd ei fam Leanne i helpu i atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr un gofid â hi, gan ymgyrchu’n ddiflino i wella diogelwch dŵr yng Nghymru.

Er gwaethaf ymdrechion gorau ei ffrindiau, boddodd Mark o ganlyniad i fynd i drafferthion ar ôl mynd i mewn i gronfa ddŵr rewllyd ym mis Mehefin 2018 – trasiedi y mae Leeanne yn credu y gellid bod wedi ei hosgoi pe byddai llinellau taflu neu fesurau brys eraill ar gael.

Cafwyd dros 11,000 o lofnodion ar ei deiseb Senedd ar gyfer ‘Deddf Mark Allen’, gan gynyddu ymwybyddiaeth o beryglon boddi, ac mae wedi hyrwyddo diogelwch dŵr ledled y wlad. Mae wedi bod yn allweddol o ran darparu’r catalydd ar gyfer newid a gosod amrywiaeth o fesurau mewn perthynas â dyfrffyrdd Cymru.

Fel partner i sefydliad Diogelwch Dŵr Cymru, mae GTADC yn chwarae rhan ganolog wrth addysgu a darparu ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr i’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu trwy weithredu argymhellion Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ac adran Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y Llywodraeth ac yn gobeithio gweld cynnydd mewn diogelwch ger y dŵr.

Dywedodd Bleddyn Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol gyda GTADC:

“Bwriad Heddiw yw tynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud gyda’n hasiantaethau partner a Llywodraeth Cymru i atal boddi, trwy annog ac addysgu pobl am sut i fod yn ddiogel wrth fwynhau lleoliadau awyr agored yng Nghymru.

“Mae GTADC yn gyfrifol am achub o gwmpas cyrff dŵr mewndirol, felly mae’n bwysig addysgu’r cyhoedd am risgiau a pheryglon sy’n gysylltiedig â dŵr.

“Mae digwyddiadau fel y rhain yn galluogi ein personél i addysgu pobl am dechnegau megis ‘arnofio i fyw’ a defnyddio offer achub syml a fydd yn ein helpu i achub yn effeithiol mewn modd amserol yn ogystal â lleihau risg o fewn ein cymunedau”.