Menter ar y cyd newydd i ddiogelu pobl fregus yn eu cartrefi
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi partneru â gwasanaethau tân ac achub i lansio menter newydd i gynorthwyo pobl fregus sydd mewn perygl o ddioddef damwain yn eu cartref yn well.
Mae’r system newydd yn caniatàu i griwiau ambiwlans wneud atgyfeiriad electronig i’w cydweithwyr gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin a De Cymru ynghylch cleifion mewn perygl o ddioddef tân yn eu cartref i gael gwiriad Iach a Diogel.
Yna gall criwiau tân ymweld â’r eiddo i liniaru’r risgiau.
Dywedodd Nikki Harvey, Pennaeth Diogelu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae criwiau ambiwlans yn mynd i gartref claf i ddarparu ymyriadau meddygol ond yn aml, yn y cyfnod maen nhw yno, byddant yn sylwi ar bethau yn y cartref sy’n codi baner goch.
“Fe allai hynny fod nad oes larwm mwg yn y cartref, bod y socedi trydan wedi’u gorlwytho neu fraster wedi casglu ar offer coginio, gyda’r rhain oll yn creu perygl tân.
“Gallai fod yn losgiadau sigaret ar ddillad neu ddodrefn y claf, neu bod casgliad eitemau’r claf yn rhwystro llwybr dianc o’r cartref.
“Mae’r ffurflen atgyfeirio newydd – y mae ein criwiau yn eu llenwi ar iPad – yn llilinio’r broses yn llwyr ac yn ei gwneud yn haws nag erioed o’r blaen i gael cymorth cydweithwyr y gwasanaeth tân a diogelu’r claf hwnnw.
“Gallai unrhyw beth rydym ni’n medru ei wneud ar y cyd i wella diogelwch cleifion, lliniaru’r risg o ddamweiniau ac atal niwed leihau nifer y galwadau 999 yn y dyfodol.”
Dywedodd Tim Owen, Rheolwr Diogelwch Cymunedol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru: “Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r gwasanaethau tân rhanbarthol yng Nghymru’n gweithio gyda’i gilydd ar lefel weithredol bob dydd.
“Bydd y cytundeb hwn yn ein galluogi ni i ymestyn y gwaith hwn, gan adnabod y rhai mwyaf bregus ac yn wynebu’r risgiau mwyaf yn ein cymunedau i’w gwneud nhw’n fwy diogel.
“Bydd rhannu gwybodaeth yn ein galluogi i ddatblygu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan dargedu ein gwasanaethau at y rhai sydd fwyaf angen cymorth.
“Bydd hefyd yn darparu templed ar gyfer hyrwyddo gweithio ar y cyd yn y dyfodol.”
Os ydych chi’n ymwybodol o berson bregus yn eich cymuned chi a fyddai’n elwa o wiriad Iach a Diogel, cysylltwch â’ch gwasanaeth tân ac achub lleol, os gwelwch yn dda.