Cynllun Ail-ddatblygu Gorsaf Dân New Inn
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn dwyn cynlluniau yn eu blaen i ddisodli’r Orsaf Dân gyfredol yn New Inn, Pont-y-pŵl â Gorsaf Dân ddiweddaredig a chynaliadwy ar ei safle cyfredol.
Adeiladwyd yr Orsaf gyfredol dros 70 blynedd yn ôl, gan agor am y tro cyntaf ym 1952. Bellach, mae’r adeiladau wedi cyrraedd diwedd ei oes faterol, ac nid yw’n bwrpasol mwyach.
Dywedodd Simon Brown, Pennaeth yr Orsaf ar gyfer New Inn:
“Mae adeiladu’r Orsaf Dân newydd sbon yn cynnig cyfle i gynllunio adeilad sydd â chynaliadwyedd fel amcan allweddol. Mae GTADC yn bwriadu cyflawni dosbarthiad Carbon Sero Net ar gyfer yr adeilad newydd, fel prosiect enghreifftiol o fewn ystâd GTADC.
“Bydd tŵr brics hyfforddi’r Orsaf gyfredol yn cael ei ddisodli gan dŵr ffrâm dur du.
Bydd 23 o fylchau parcio, gan gynnwys tri bae i’r anabl a phum gorsaf wefru i gerbydau trydan a bydd hyd yn oed gan yr adeilad newydd baneli solar ar ei do.”
Hefyd, bydd pump o goed masarnen fach yn cael eu plannu ar hyd y safle, yn ogystal â choedwrych newydd, llwyni, glaswellt ac ardal les ar gyfer staff. Bydd blychau ystlumod ac adar yn cael eu codi wrth ystyried y bywyd gwyllt lleol.
Mae cais cynllunio am Orsaf Dân dros dro i “sicrhau bydd lefel briodol o wasanaeth ym Mhont-y-pŵl” yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod adeiladu ar fin cael ei gyflwyno.
Delweddau cyfredol o Orsaf Dân New Inn, Pont-y-pŵl
Delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur o’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Gorsaf Dân New Inn, Pont-y-pŵl