New Inn yn adleoli dros dro i Ystâd Ddiwydiannol Mamhaild

Mae cynlluniau ar waith i Orsaf Dân New Inn symud dros dro i Ystâd Ddiwydiannol Mamhilad, Ddydd Gwener 15fed o Dachwedd 2024.

Mae gwaith adeiladu ar y gweill i wneud gorsaf dân newydd, fodern ar safle cyfredol Gorsaf 33, New Inn.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y criw yn cael eu hadleoli dros dro er mwyn galluogi Ymladdwyr Tân i barhau i wasanaethu’r ardal, heb amharu ar ansawdd na chyflymder yr ymateb brys.

Mae’r penderfyniad i adleoli dros dro yn sicrhau bod diogelwch a lles y gymuned yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth gennym.

Dywedodd Scott Reed, Rheolwr yr Orsaf: “Er ein bod yn gyffrous am y gwelliannau a ddaw yn sgil yr orsaf newydd, nid yw ein hymrwymiad i amddiffyn y gymuned wedi newid. Rydym am roi sicrwydd i’r cyhoedd bod y tîm, yn ystod y symud dros dro hwn, yn gwbl barod i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw argyfyngau sy’n codi.

“Rydym wedi asesu amseroedd teithio, mynediad i brif lwybrau, a strategaethau ymateb yn ofalus, gan gadarnhau na fydd yr adleoli yn effeithio ar lefel y gwasanaeth nac argaeledd ein criwiau.”

Manteision symud

Ar ôl ei chwblhau bydd yr orsaf newydd yn dod â buddion sylweddol i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r gymuned ehangach, gan gynnwys:.

  • Cyfleusterau gwell i ddiffoddwyr tân: Bydd yr orsaf newydd yn darparu cyfleusterau, ardaloedd hyfforddi, ac offer gwell, gan ganiatáu i’n tîm gynnal a datblygu eu sgiliau ymhellach i’ch gwasanaethu’n well.
  • Moderneiddio ar gyfer gwell gwasanaeth: Bydd uwchraddio seilwaith yr orsaf yn cefnogi ymrwymiad GTADC i ddarparu gwasanaethau brys effeithiol, effeithlon a chadarn.
  • Cynaliadwyedd: Bydd yr adeilad newydd yn ymgorffori systemau sy’n effeithlon o ran ynni a chynlluniau ecogyfeillgar, gan leihau ôl troed carbon gweithrediadau yn unol â nodau cynaliadwyedd GTADC.

Dymuna Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn o ddatblygiad cadarnhaol.

Bydd diweddariadau ar gynnydd yr orsaf yn cael eu rhannu trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch gysylltu â ni drwy law e-bost hys@decymru-tan.gov.uk