Diffoddwyr Tân De Cymru yn Cadw Teitl Pencmpwyr y Byd yn Her Achub y Byd 2019
Mae Tîm Datglymu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Pen-y-bont wedi cael ei choroni yn Bencampwyr yn yr 20fed Her Achub y Byd yn La Rochelle, Ffrainc.
Mae hwn yn y bedwaredd bencampwriaeth olynol ac y seithfed wobr ryngwladol mewn 20 mlynedd o gystadlu mae’r tîm wedi ennill y wobr fawreddog. Wrth gystadlu yn erbyn 35 o dimau datglymu yn gwreiddio o wledydd ar draws y byd, cafwyd sgiliau’r tîm eu profi i’r lefel uchaf. Bu rhaid iddynt ddelio gyda’r dechnoleg cerbydau mwyaf diweddar gyda’r ceir wedi’ darparu gan Renault.
Enillwyd y tîm dwy fedal aur ac un arian gyda’r wobr gyntaf yn y senarios safonol a chymhleth a gwobr ail yn y senario cyflym. Cafodd anrhydedd unigol eu hennill gan Reolwr Gorsaf Roger Magan wrth iddo ennill gwobr aur am y Rheolwr Digwyddiad Orau.
Fe enillwyd Rheolwyr Gwylfa Allyn Hosey a Mark Iles a Diffoddwr Tân Matt Leman y wobr am Dîm Technegol orau, yn ogystal â Rheolwr Criw Les Evans a Diffoddwr Tân Rob Buckley a ddaeth yn ail yn y wobr am Dîm Meddygol Orau.
Roedd y gystadleuaeth eleni yn y tro cyntaf i Reolwr Gorsaf Magan gystadlu fel Rheolwr Digwyddiad, yn ogystal ag Diffoddwr Tân Buckley fod yn hollol newydd i’r tîm ac yn cystadlu yn eu pencampwriaeth gyntaf erioed! Wnaeth yr ychwanegiadau a sefyllfaoedd newydd o fewn y tîm amlygu ba mor wych yw’r cyflawniad a cofiadwy yw’r fuddugoliaeth.
Mae’r tîm yn dychwelyd I Gymru’r wythnos yma ac yn dechrau paratoadau am yr Her Genedlaethol UKRO 2019 yn Derby wythnos nesaf lle fyddant yn cael eu herio unwaith eto yn erbyn timau o weddill y DU ac Iwerddon.
Mae’r tîm yn wrth eu modd gyda’r canlyniadau a hoffent ddiolch pawb yn y Gwasanaeth sy’n parhau i gynnig eu cefnogaeth.