Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyflwyno ei ffrind newydd, sef Sbarc! Bydd Sbarc yn helpu i rannu negeseuon â phlant ifanc am y peryglon o chwarae â thân a sut y mae cadw’n ddiogel yn eich cartref ac yn eich cymuned. Yn ystod haf 2019, daeth y tri…
Wrth i benwythnos gŵyl banc y Pasg agosáu mae Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill ledled Gwent yn rhannu un neges syml – arhoswch gartref. Gydag addewidion o dywydd da a phenwythnos estynedig i bawb ei fwynhau, mae asiantaethau allweddol yn rhybuddio y gallai pobl…
Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, mae gwasanaethau tân ledled Cymru yn annog y cyhoedd i beidio â chael eu temtio i losgi gwastraff o’r ardd neu’r tŷ. Gall yr hyn oedd i fod yn dân bach, neu ychydig o hwyl yn unig, ymledu’n gyflym a mynd allan o reolaeth.…
Yn ôl ‘Electrical Safety First’ gallai llawer o bobl yng Nghymru sy’n gweithio gartref o ganlyniad i bandemig fod yn gorlwytho socedi, cadwyno ceblau gyda’i gilydd a gwefru dyfeisiau ar welyau Wrth i niferoedd enfawr o bobl yng Nghymru ymaddasu i drefn weithio newydd, gallai llawer ohonynt fod yn peryglu…
Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym yn eich annog i beidio â chael eich temtio i losgi gwastraff o’ch gardd neu o’ch cartref. Rydym yn deall bod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu yn cynnig cyfle i wneud ychydig o arddio a chlirio eich siediau. Fodd…
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu hannog i gadw llygad barcud ar eu plant ar ôl i’r hyn y credir ei fod yn dân glaswellt ledaenu’n beryglus o agos at ystâd dai gyfagos yn y Rhondda. Cafodd y Gwasanaethau Brys eu galw tua 4.30yh Ddydd Sul (y 29ain o Fawrth,…
Os ydych yn gweithio gartref, yn hunanynysu neu’n ymbellhau’n gymdeithasol, rydym yn gwybod y byddwch yn treulio mwy o amser gartref yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallai hyn gynyddu’r siawns y byddwch chi’n cael tân yn eich cartref. Yn ffodus, drwy gymryd pedwar cam hawdd, gallwch chi leihau’r risg yn…
Yr wythnos hon mae ein criwiau wedi mynychu nifer o danau glaswellt a sbwriel ar draws De Cymru, ac rydym yn amau efallai eu bod wedi cael eu cynnau’n fwriadol. Mae rhai wedi gofyn am bresenoldeb nifer o beiriannau tân, defnyddio offer critigol a symud adnoddau. Mae tanau bwriadol fel…
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n agos holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddir gan y Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r COVID-19. Mae gan y Gwasanaeth gynlluniau wrth gefn llawn â mesurau ar waith i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn…
Agorwyd cartref newydd i’r pedwar gwasanaeth brys – gyda phawb o dan yr un to yn Llanilltud Fawr – am y tro cyntaf yng Nghymru. (Dydd Mawrth y 10fed oi Fawrth 2020). Bydd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwylwyr y…