Pedwar Gwasanaeth 999 yn Ymuno Dan yr Un To yn Llanilltud Fawr
Agorwyd cartref newydd i’r pedwar gwasanaeth brys – gyda phawb o dan yr un to yn Llanilltud Fawr – am y tro cyntaf yng Nghymru. (Dydd Mawrth y 10fed oi Fawrth 2020).
Bydd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwylwyr y Glannau EM i gyd yn cydweithredu o gyn Gorsaf Dân ac Achub Llanilltud Fawr.
Yn barod mae modd newydd o weithio – gyda gwasanaethau 999 wedi’u cyd-leoli ar un safle – yn cryfhau cydberthnasau rhwng partneriaid gwasanaethau brys, sy’n creu ffyrdd mwy effeithiol o weithio a chefnogi rhannu gwybodaeth a fydd o fantais i’r cyhoedd.
Dywedodd Christian Hadfield, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae hyn yn fenter cyd-leoli wych i’n gwasanaethau brys i weithio law yn llaw a dysgu o’n gilydd, sy’n fuddiol i’n cymunedau ym Mro Morgannwg ac yn ehangach.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Michael, “Mae’r penderfyniad i gasglu’r pedwar gwasanaeth brys ynghyd o dan un to yn dangos ein hymrwymiad i wneud defnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus wrth ddyrchafu gweithio mewn partneriaeth ar y cyd a darparu gwasanaethau. Llanilltud Fawr yw’r drydedd dref fwyaf ym Mro Morgannwg ac rydym yn ymroddedig i gadw’n presenoldeb o fewn y dref. Yn hytrach na lleoli pob gwasanaeth brys mewn adeiladau ar wahân, bob un ohonynt ag angen gwaith ailwampio, nawr rydym wedi ymuno mewn cyd-orsaf cyfoes a gwell.”
Dywedodd Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, “Rydym yn gweithio’n agos iawn â’n cydweithwyr Golau Glas yn ddyddiol. Mae hwn yn gyfle arbennig i ddod â’n pobl ynghyd ac yn well fyth, i gynnwys yr amrediad llawn o bedwar gwasanaeth yn gweithredu ar hyd ein harfordir. Mae hyn yn golygu gall pob sefydliad wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus a chadw ein staff rheng flaen yng nghanol y gymuned.”
Dywedodd Nicola Davies, Uwch-Swyddog Gweithrediadau Arfordirol Gwylwyr y Glannau EM: “Bydd gweithio dan yr un to â’r gwasanaethau brys eraill yn rhoi’r cyfle i ni gryfhau cydberthnasau pwysig, wrth weithio’n fwy cydweithredol a sicrhau bydd y cyhoedd yn derbyn y gwasanaeth gorau posib. Mae’n adeg gyffrous.”
Dywedodd Mark Cadman, Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i Gaerdydd a Bro Morgannwg: “Mae’r orsaf newydd yn cyflwyno’r cyfle perffaith i weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr golau glas, y mae gennym berthynas waith ardderchog â nhw eisoes ac rydym yn mynychu nifer o ddigwyddiadau gyda’n gilydd. Mae gweithredu o un safle yn caniatáu cydlynu gwell pan ddaw at ymateb i ddigwyddiadau a gwna’r defnydd gorau o adnoddau, heb son am gyfleusterau gwell i’n staff.”