Recriwtiaid Diffoddwyr Tân Llawn Amser – Diwrnod lles

Ddydd Llun y 23ain o Fedi, aeth ein recriwtiaid Dyletswydd Gyflawn newydd ati o ddifri wrth iddynt gychwyn ar gwrs hyfforddi cychwynnol GTADC am 13 wythnos.

Dan arweiniad hyfforddwyr, mewn cyfleuster hyfforddi awyr agored 110 erw o faint yn y mynyddoedd, mynychodd 24 o recriwtiaid ddiwrnod lles yn Mountain Yoga yn Ffynnon Taf. Er gwaethaf y pwyslais mawr ar dechnegau anadlu a symudedd, nid ‘ioga’ yn yr ystyr traddodiadol oedd hyn!

Dywedodd Mark Tait, Rheolwr Gorsaf Canolfan Hyfforddi a Datblygu Porth Caerdydd: “Dyma ddiwrnod cyntaf rhan weithredol y cwrs a dylai’r profiad fod o fudd i’r recriwtiaid am weddill eu hyfforddiant, ac ai’r dyfodol.

“Y bore yma rydym yn ni’n profi eu hydwythdedd, eu disgyblaeth, eu gallu i ddilyn gorchmynion ac i weithio gyda’n gilydd – a’r cyfan mewn sefyllfaoedd dirdynnol ac anghyfforddus.”

Gan ddechrau gyda sesiwn gynhesu oedd yn cynnwys ymdrochi yn y pwll nofio oer, roedd gweithgareddau’r bore yn cynnwys gweithdy dringo rhaff, lle enillodd y recriwtiaid sgiliau newydd a fydd yn fuddiol yn ystod eu hyfforddiant arfaethedig ym Mhorth Caerdydd.

Rhoddwyd sgiliau gwaith tîm ar brawf yn ystod yr ‘Her Lôn Lactig’ – lle bu’n rhaid i bob grŵp symud pum bag tywod i ben ‘Lactic Lane’ (bryn serth iawn) yn yr amser lleiaf posibl, gan flaenoriaethu effeithlonrwydd a diogelwch.

Yn ystod ras tîm, datblygodd y recriwtiaid sgiliau arwain trwy fynd i’r afael ag ystod o rwystrau, gan gynnwys neidiau wal a chyrsiau rhwystrau bach.

Roedd elfennau eraill o’r diwrnod yn canolbwyntio ar adferiad, meddylfryd, a lles, gyda phwyslais ar ymestyn a symud, symudedd ffêr a phen-glin, cryfder calisthenics a thechnegau atal anafiadau.

  

Dywedodd Bradley Phillips, y recriwtiwr: “Mae popeth a wnaethom yn berthnasol i’r hyn yr ydym yn anelu ato a’r hyn y byddwn yn ei wneud ar y cwrs.

“Roedd yn ffordd dda iawn o ddod i adnabod ein gilydd yn gyflym; roedd morâl yn uchel gyda phawb yn ymuno a siarad â’i gilydd.

“Roedd y dringo rhaff yn anoddach na’r disgwyl, ond  ar ôl i chi ddeall y dechneg – mae popeth yn iawn.

“Byddwn i’n dweud mai fy hoff ran oedd rhedeg lan y bryn gyda’r bagiau tywod; er ei bod yn anodd, roedd hi hefyd yn hwyl achos yr elfen gystadleuol.”

  

Ategwyd y teimladau gan Molly Phillips, un o’r recriwtiaid, a ddywedodd: “Roedd yn heriol ond roedd yn help i ddod â phobl at ei gilydd ac ymestyn yr hyn yr oeddem yn credu y gallem ei gwneud. Roedd llawer o bwyslais ar waith tîm a bydd y technegau a ddysgwyd i ni yn hanfodol ar gyfer y cwrs.”

Ar ôl canolbwyntio ar dechnegau anadlu i helpu gyda lleihau straen a gwella hwyliau, cafodd y recriwtiaid gyfle i ymlacio a myfyrio wrth y tân ar ddiwedd y dydd.

Ychwanegodd Mark: “Fydd dim byd arall yn y cwrs mor galed â hyn; maen nhw wedi cyrraedd yr anterth, a bydd hyn yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n meddwl bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yn arloesol o ran y Gwasanaeth Tân a’r ffordd yr ydym yn trin ein recriwtiaid. Rydym yn eu dysgu sut i ofalu am eu corff a’u meddwl ac ymwybyddiaeth o straen a sut i’w reoli, o ran eu hunain ac eraill.

“Mae angen i ni eu profi a rhoi’r sgiliau bywyd iddyn nhw sy’n eu galluogi i gael gyrfa hir a llwyddiannus.”

Gan ddymuno pob lwc i’n holl recriwtiaid newydd wrth iddynt barhau â’u hyfforddiant.