Rheoli tanau gwyllt yng Nghymru a gefnogir gan Siarter Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru (BCC)
Ar ddechrau Hydref, cyhoeddodd Undeb y Brigadau Tân adroddiad ar hydwythedd tanau gwyllt yn y DG, gan honni fod “paratoad at danau gwyllt yn parhau fel ‘loteri cod post’ ” o ganlyniad i absenoldeb strategaeth tanau gwyllt ledled y DG.
Tra bod toriadau i gyllidebau wedi effeithio rhai gwasanaethau tân ac achub yn y DG, mae rheolaeth tanau gwyllt ar draws Cymru’n cael cefnogaeth siarter a awdurdodwyd gan Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru (BTGC)
Nod siarter Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yw:
Mae myrdd o asiantaethau wedi cydweithio ar y siarter, yn y gobaith byddant yn ennill gwell dealltwriaeth o’r hyn a ellir ei wneud i leihau nifer y tanau gwyllt ar draws Cymru a lleihau’r niwed gallasant achosi i’n hamgylchedd.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru’n tynnu’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig, y pedwar llu Heddlu, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r parciau cenedlaethol Cymreig ynghyd. Mae’r bartneriaeth hon yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, yn gweithio ynghyd i gefnogi rheolaeth tanau gwyllt wrth wrando a rhannu datrysiadau ymarferol i Gymru.
Dywedodd Chris Hadfield, Pennaeth Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC):
“Mae’r agwedd hon yn sicrhau bydd strategaeth gydlynus ynghylch newid hinsawdd, gweithgareddau atal, llosgi bwriadol maleisus, tirfeddiannwyr a’n hymateb gweithredol ni yn rhoi diogelu ein tirweddau, cynefinoedd a’n cymunedau ar flaen yr agenda.
“Bob blwyddyn, mae tân yn gyfrifol am ddistrywio miloedd o hectarau o dir gwledig, gwagleoedd agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.
“Ynghynt eleni, cafodd GTADC ei foddi gan alwadau ac adroddiadau o danau gwyllt ar draws ardal De Cymru. O’r 1af o Ebrill i’r 11eg o Fehefin 2023, ymatebodd GTADC i dros 400 o danau gwair a gwyllt bwriadol a ddistrywiodd gynefinoedd naturiol ac achosodd niwed difrifol. O’r 5ed o Fehefin i’r 11eg o Fehefin 2023 yn unig, fe wnaethom ymateb i 75 o danau gwyllt bwriadol.”
Am ragor o wybodaeth ar sut wnaethom daclo’r tanau gwyllt hyn, cliciwch yma.
Dywedodd Andrew Wright, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Ymgynghorydd Arbenigol – Iechyd a Throsglwyddo Gwybodaeth ynghylch Planhigion yng Nghyfoeth Naturiol Cymru:
“Ffurfiolwyd ein siarter tanau gwyllt o amgylch tair thema allweddol, bob un ohonynt wedi’u cynllunio i sicrhau ein bod yn gallu canolbwyntio ar y meysydd sydd nid yn unig angen y sylw mwyaf ond bydd hefyd yn cael y dylanwad mwyaf wrth wella ein dealltwriaeth o danau gwyllt a sut all y Bwrdd reoli’u heffaith yn gadarnhaol.”
Mae Partneriaid Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ymrwymo i weithio â chymunedau i adeiladu tirwedd fwy iach a hydwyth wrth ddatblygu cefn gwlad fwy bioamrywiol i’r dyfodol.