Ry’n ni #YmaiChi yr Dolig hwn
Mae’n adeg yr Ŵyl, ac yn amser adlewyrchu, ac yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, hoffwn gymryd munud i’ch atgoffa i gadw’ch hun a’ch anwyliaid yn ddiogel y Nadolig hwn.
Gan fod nifer ohonom yn cynllunio i ddal i fyny ac ail-gysylltu â theulu a ffrindiau’r Nadolig hwn, ry’n ni’n ymbil arnoch i gadw’n wyliadwrus wrth i chi fwynhau danteithion yr Ŵyl.
Mae mwyafrif y tanau cegin yn cael eu hachosi gan ddiffyg sylw wrth goginio, gyda chwympo i gysgu’n ail agos. Gall ychwanegu ychydig o ddiodydd Nadoligaidd i’r pair fod yn drychinebus ac yn peryglu eich cartref, eich anwyliaid a chithau. Mae tanau’n gallu lledaenu’n afreolus ac arwain at ganlyniadau trychinebus. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, achoswyd un allan o bob tri thân damweiniol yn y cartref yn ystod cyfnod yr Ŵyl gan goginio sydd heb ei oruchwylio.
Mae’n hawdd cael eich llygad dynnu wrth i chi goginio pryd mawr – dim ond ychydig eiliadau mae’n cymryd i dân gynnau. Felly, os y’ch chi’n cynllunio coginio gwledd Nadoligaidd gartref eleni, sicrhewch eich bod yn cadw llygad ar eich twrci, samwn neu gnau rhost!
Dyewedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau, St. John Towell:
“Gall profi tân yn eich cartref ar unrhyw adeg o’r flwyddyn fod yn ddinistriol, ond eithafir hyn dros gyfnod yr Ŵyl. Ry’n ni am i chi fwynhau’r gwyliau’n ddiogel a chymryd y camau angenrheidiol i atal tanau rhag cychwyn.
O ganhwyllau i oleuadau’r Nadolig, o socedi wedi’u gorlwytho i goginio heb oruchwyliaeth, dim ond ychydig o eiliadau sydd angen ar dân i gynnau, felly mae’n bwysig peidio â chael eich llygad dynnu gan ganolbwyntio ar beth fyddwch chi’n gwneud. Cadwch eich hunan yn ddiogel a darllenwch ein hargymhellion a’n cyngor diogelwch. Gall hyd yn oed cael larwm mwg gweithiol a’i brofi’n rheolaidd neu feddu ar gynllun dianc a’i hymarfer atal trasiedi.
Gan bawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, da chi, cadwch yn ddiogel a gofalwch amdanoch chi eich hunain. Nadolig Llawen, bawb.”
Dathlwch yr Ŵyl mewn modd diogel, gan osgoi’r goleuadau glas y Nadolig hwn wrth ddilyn ein cyngor a’n cyfarwyddyd diogelwch.
Coginio Gwledd Nadoligaidd?
Pan fyddwch chi’n estyn am y tinsel a’r addurniadau, sicrhewch …
P’un ai os ydych chi’n gwneud rhywfaint o siopa Nadolig munud olaf neu’n mynd ag anrhegion at ffrindiau a theulu, cymrwch ofal ychwanegol wrth yrru mewn amodau gaeafol…
Os y’ch chi’n brin eich amser ac yn ystyried siopa ar-lein…
Dros gyfnod yr Ŵyl, mae bron i hanner y tanau a fynychwyd gan ein criwiau yn tarddu o sbwriel…
I sicrhau galllwch chi, eich teulu, eich cymdogion a’r gwasanaethau brys oll gadw’n ddiogel eleni, parhewch i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru dros gyfnod yr Ŵyl.
Am ragor o wybodaeth a negeseuon diogelwch, ewch at ein gwefan www.decymru-tan.gov.uk neu dilynwch ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Trydar/Facebook/Instagram neu beth am lawr lwytho ein llyfryn Diogelwch yn y Cartref.
Beth bynnag fyddwch chi’n gwneud, cadwch yn ddiogel, meddyliwch yn ofalus, a byddwch yn ymwybodol y gwyliau hyn ein bod ni yma i chi.