Staff y Gwasanaeth Tân yn derbyn hyfforddiant arbenigol i gefnogi teuluoedd yn profi profedigaeth o ganlyniad i gydweithwyr ymadawedig
Gall rôl swyddog cyswllt teulu fod yn gyswllt hanfodol i deuluoedd pan fydd trychineb yn digwydd yn y gweithle. Gallant fod yn gefn yn ystod yr adegau anoddaf i ddarparu cymorth a chyngor y mae mawr eu hangen.
Yr wythnos hon, yn dilyn prosiect hyfforddi cydweithredol gydag elusen o Gymru 2 Wish Upon a Star, datgelodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru rwydwaith newydd o swyddogion a hyfforddwyd yn arbennig i gyflawni rôl Swyddog Cyswllt Teulu (SCT) y Gwasanaeth.
Mae rôl Swyddog Cyswllt Teulu, sef y rôl ffurfiol gyntaf un o’r math gyda’r Gwasanaeth, yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth o’r safonau uchaf i deuluoedd cydweithwyr a fu farw yn drasig wrth gyflawni eu dyletswyddau neu y tu allan i’r gwaith, drwy ddamwain neu salwch ill dau. Mae hyn yn digwydd ochr yn ochr ag ystod o gymorth arall a ddarperir i deuluoedd gan gynnwys Uned Iechyd Galwedigaethol y Gwasanaeth a chymorth gan y Caplan.
Mae’r deg swyddog, sy’n gweithio mewn cymunedau ar draws De Cymru, wedi cwblhau rhaglen hyfforddi tri modiwl yn llwyddiannus gyda 2 Wish Upon a Star. Mae’r rhaglen hon yn darparu cymorth profedigaeth uniongyrchol a pharhaus i unigolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn unigolyn dan 25 oed.
Cyflwynwyd yr hyfforddiant yng Ngorsaf Gwasanaethau Brys y Barri a chyflwynwyd tystysgrifau yn cydnabod eu cyflawniad i’r Swyddogion Cyswllt Teulu newydd yr wythnos hon gan y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM a Rhian Mannings MBE, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr 2 Wish Upon a Star. Dywedodd Rheolwr Criw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, David Crews, Prif Swyddog Rhaglen Iechyd Meddwl y Gwasanaeth: “Mae ein swyddogion cyswllt yn bresennol ar adegau mwyaf sensitif, personol a thrawmatig bywydau unigolion. Mae’r rôl yn gofyn am dosturi a hydwythder personol, ond mae’n werth chweil gan fod modd i chi wneud bywyd yn haws i rywun mewn rhyw ffordd fach yn ystod un o gyfnodau anoddaf ei fywyd. Rydym am sicrhau ein bod yn trin teuluoedd ein cydweithwyr yn briodol, yn broffesiynol, gyda pharch ac yn unol â’u hanghenion amrywiol.
Er nad therapyddion a chynghorwyr yw’r swyddogion, mae llawer o deuluoedd yn gweld yr help a’r gefnogaeth ychwanegol yn amhrisiadwy.”