Staff Ysbyty Cwm Rhondda yn derbyn Cymeradwyaeth y Prif Weithredwr
Cyflwynwyd Canmoliaeth i Nyrsys a staff o Ysbyty Cwm Rhondda (YCRh) gan Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am feddwl yn chwim a gweithredu’n ddewr.
Yn oriau mân fore dydd Sul, y 7fed o Fawrth 2021, cafodd diffoddwyr tân eu danfon yn dilyn adrodd tân mewn ward breswyl yn yr ysbyty. Fodd bynnag, achos eu hymateb cyflym a’u hydwythdedd, llwyddodd staff i symud pob un o’r 27 claf oedd ar y ward i fan diogel heb dim anafiadau difrifol.
Drwy ddefnyddio’r wybodaeth a gawsant gan hyfforddiant tân, dilynodd y staff brotocol diogelwch drwy ddefnyddio llwybrau dianc a chau drysau tân. Roedd hyn oll yn help i gynnwys y tân a’i atal rhag lledaenu a pheryglu bywydau. O ganlyniad i hyn, dim ond ar un rhan o ward ysbyty yr effeithiodd y tân a llwyddodd diffoddwyr tân i ddiffodd y tân a diogelu’r ardal.
Cyflwynwyd y wobr i staff yr ysbyty gan y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM ar y 17eg o Awst 2021.
Dywedodd Garry Davies, Rheolwr Ardal a Phennaeth Adran Gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
“Mae’r wobr hon yn Gymeradwyaeth Tîm i ddathlu eu hymroddiad i amddiffyn eu cleifion, a hefyd i gydweithio a chefnogi ei gilydd fel tîm. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant diogelwch tân yn hanfodol gan y bydd yn achub bywydau yn y pen draw. Fel y swyddog oedd yn gyfrifol am y digwyddiad yn yr ysbyty, gallaf ddweud bod gweithredu cyflym staff yr ysbyty yn y fan a’r lle wedi cynorthwyo llawer â mynd â’r cleifion i le diogel, cynnwys y tân ac adfer trefn arferol y ward yn yr ysbyty. Arhosodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y lleoliad i helpu i glirio ar ôl y tân. Cawsant gymorth gan dimau o’r ysbyty, sy’n dystiolaeth bellach o sut mae cydweithio’n sicrhau canlyniad cadarnhaol. ”
Dywedodd Leanne Davies, sy’n Uwch Nyrs gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:
“Rydym yn hynod o falch ac yn ddiolchgar dros ben i’n holl staff am weithredu yn y fath modd ar noson y digwyddiad. Drwy weithio fel tîm, roeddent wedi sicrhau diogelwch y cleifion a’r staff ar y wardiau ill dau. Heb eu gallu nhw i feddwl yn gyflym, gallai’r sefyllfa hon fod wedi bod yn wahanol iawn. Cyflawnodd y staff dan sylw lawer mwy na’r disgwyl mewn sefyllfa na fyddai neb byth yn ei disgwyl a sefyllfa y mae pawb yn gobeithio ei osgoi. Maent yn glod i ni ac yn gwbl haeddiannol o’r gymeradwyaeth hon. Roedd yn anrhydedd i dderbyn y wobr hon ac mae wedi atgyfnerthu’r dewrder a’r hydwythdedd a ddangoswyd gan y staff wrth wynebu sefyllfa beryglus.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Greg Dix:
“Mae holl staff Cwm Taf Morgannwg yn derbyn hyfforddiant diogelwch tân rheolaidd ac mae hyn yn dangos sut y gwnaethant ddefnyddio eu gwybodaeth i weithredu i sicrhau diogelwch yr holl gleifion a staff. Rydym yn falch iawn o’u gweithredoedd cyflym a’u hesiampl wych o waith tîm. Rydym hefyd yn falch iawn o’r gydnabyddiaeth gan y Prif Swyddog Tân. “