Tîm De Cymru’n concro 10 esgyniad o Ben y Fan

Yn 886 medr uwchben lefel y môr, Pen y Fan yw’r copa uchaf yn Ne Cymru, ac fe’i defnyddiwyd gan y Lluoedd Arbenigol fel rhan o’u proses ddethol rymus (Gwglwch ‘The Fan Dance’ os ydych chi am wybod mwy!).

Er hyn, penderfynodd tîm o Ddiffoddwyr Tân i geisio concro’r mynydd deg gwaith mewn dim ond 24 awr ar y 5ed o Fedi, i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a Hosbis Plant Tŷ Hafan.

Yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae golygfeydd ar hyd y Mynyddoedd Du, Bae Abertawe, Penrhyn Gŵyr a Môr Hafren yn bosib o’r copa ar ddiwrnod clir, ond i Reolwr Gwylfa’r Barri, Mark Potts a Diffoddwyr Tân Tom Petty a Sean Cayford, a leolir ym Mhen-y bont ar Ogwr, tarth trwchus, glaw trwm a gwyntoedd uchel oedd yn arglwyddiaethu’r her, a adnabyddir yn lleol fel Ten y Fan.

Dywedodd Mark: “Dechreuon ni’r her am hanner nos ac roedd y gwelededd yn eithriadol o wael oherwydd niwl a tharth, gyda rhybudd melyn mewn grym ar gyfer y diwrnod canlynol.”

Er gwaetha’r amodau gwael, gyrrodd y tîm yn eu blaenau gyda nifer o gyfeillion a chydweithwyr yn ymuno â hwy am esgyniadau yn ystod yr ychydig oriau nesaf.

“Roedd e’n codi calon rhywun gymaint i weld cynifer o bobl ymunodd i’n cefnogi ni mewn amrywiol fannau ar hyd yr her. Yn gyfan, cyfranogodd 19  – daeth rhai am hanner nos i wneud yr esgyniad cychwynnol, gydag eraill yn ymuno â ni’n hwyrach,” ychwanegodd.

Mark oedd yr olaf i orffen am tua 19:15 y diwrnod canlynol – bron i bum awr ynghynt na’r disgwyl, gyda rhai o aelodau’r tîm yn dewis rhedeg esgyniadau o’r her.

“Roedd hi’n eithriadol anodd yn gorfforol i’w wneud ac, wrth i’r amser barhau, dioddefodd nifer â blinder a phoen yn eu cymalau, ond cymrodd pobl ran gan ddyfalbarhau o ganlyniad i’r gwaith ardderchog a wneir gan elusennau,” eglurodd.

“Rwy’ wastad yn ceisio gwneud peth gwaith elusennol bob blwyddyn, ac mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn bwysig i mi oherwydd y gwasanaethau hanfodol a ddarperir ganddynt o ran triniaeth, adfer a seibiau i bersonél y Gwasanaeth, boed yn gwasanaethu’n gyfredol neu rhai sydd wedi ymddeol, ynghyd â’u teuluoedd,” eglurodd Mark.

“Lleolir Hosbis Tŷ Hafan ar dir Gorsaf Y Barri, ac mae’n darparu gofal diwedd bywyd yn rhad ac am ddim i blant a chefnogaeth i deuluoedd wrth iddynt ddelio â cholled annirnadadwy eu hanwyliaid. O fewn eu hardal, maent wedi amcangyfrif mai dim ond un ymhob deg o blant sydd angen gofal maen nhw’n gallu cynnig hyn, oherwydd diffyg cyllid, ac felly’n dibynnu ar godi arian i’w helpu i ddarparu gofal i eraill.

“Hoffwn ddweud diolch anferth i bawb a gymrodd rhan ac am eu cyfraniadau caredig a hael. Ry’n ni i gyd yn ddiolchgar i bob un ohonoch chi”, gorffennodd.

I helpu Mark a’r tîm gyrraedd eu targed, ymwelwch â:

https://bit.ly/PenYFanClimb24