Yr Ŵyl Achub yn Dychwelyd
Digwyddodd yr Ŵyl Achub eto dros y penwythnos (y 17eg a’r 18fed o Fedi) ac ar ddiwedd diwrnod heriol daeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adref gyda chanlyniadau rhagorol.
Yn ystod y digwyddiad daeth 300 o gystadleuwyr ynghyd o’r 25 gwasanaeth Tân ac Achub o fewn y DU i arddangos eu sgiliau achub bywydau yn yr Afon Tyne ac yn yr ardal gyfagos. Brwydrodd y 67 tîm oedd yn cymryd rhan mewn pum prif ddisgyblaeth – yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, i ddod yn bencampwyr o fewn eu meysydd penodol.
Roed y pum prif ddisgyblaeth yn cynnwys:
Digwyddodd yr Ŵyl Achub eto dros y penwythnos hwn ac ar ôl deuddydd caled a blinedig iawn o heriau cyson daeth Timau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adref gyda chanlyniad syfrdanol.
Hoffem longyfarch holl dimau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ennill;
Yr Her Datglymu
1af – Tîm GTA De Cymru (Pen-Y-Bont)
1af – Rheolwr Digwyddiadau GTA De Cymru (Pen-Y-Bont) (Roger Magan)
3ydd – Tîm Meddygol GTA De Cymru (Pen-Y-Bont) (Leslie Evans a Rob Buckley)
Her Achub o Gerbydau Trwm
3ydd – GTA De Cymru (Porthcawl) a GTA Swydd Suffolk
Her Achub â Rhaff
1af – Tîm GTA De Cymru
1af – Rheolwr Digwyddiadau GTA De Cymru (Emma Atcherley)
1af – Tîm Meddygol GTA De Cymru (Paul Turner)
1 af – Tîm Technegol GTA De Cymru
Her Trawma
2il – – Tîm GTA De Cymru (Nathan Moyle a Rob Buckley)
Canlyniad syfrdanol o ganlyniad i ymroddiad, paratoi a hyfforddi parhau.
Dywedodd Rheolwr Grŵp Shaun Moody:
‘Roedd cymryd rhan yn yr Ŵyl Achub eleni yn fraint fawr gennym. Mae’r digwyddiad unigryw yn dathlu sgiliau ac ymroddiad gwasanaethau Tân ac Achub ar draws y DU. Mae’r ŵyl yn darparu llwyfan genedlaethol sy’n amlygu’r disgyblaethau arbenigol hynny sy’n allweddol mewn digwyddiadau ac argyfyngau gwirioneddol. ‘Rwy’n falch dros ben o’r hyn a gyflawnon ni yn ystod y penwythnos llawn gweithgarwch, canlyniad rhyfeddol ym mhob ffordd, ymroddiad, paratoi a hyfforddiant parhaus. Llongyfarchiadau mawr i’r holl Wasanaethau eraill a gymerodd ran yn yr her eleni ac edrychwn ymlaen at gystadlu eto, y flwyddyn nesaf.”
Ceir rhestr gyflawn o’r ennillwyr a’r rhai nesaf at y gorau yma – ukro.org/?page_id=1691