Tîm Pen-y-bont ar Ogwr GTADC yn cadw teitl Datgymalu’r DU am y 6ed tro a thîm Achub â Rhaff GTADC yn dod yn 1af yn her achub Ymladdwyr Tân UKRO ym Mae Caerdydd.
Tîm Datgymalu Pen-y-bont ar Ogwr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r tîm gorau un yn y wlad o hyd ar ôl amddiffyn eu teitl fel Tîm Datgymalu’r DU ac ennill am y chweched tro.
Brwydrodd y tîm yn erbyn cystadleuaeth gref gan dimau ledled y DU gartref yn Her Sefydliad Achub y Deyrnas Unedig (UKRO) ym Mae Caerdydd y penwythnos diwethaf. Hefyd enillodd y tîm wobr Tîm Datgymalu Technegol Gorau’r DU a gwobr y Meddyg Datgymalu Gorau yn y DU.
Yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan ddenu miloedd i Fae eiconig a heulog Caerdydd, bu 600 o ymladdwyr tân yn cystadlu yn y digwyddiad yn yr heriau Trawma, Dŵr, Datgymalu, Achub â Rhaff a Threfol ac Achub gan arddangos y sgiliau a’r technegau achub gorau un gan Wasanaethau ledled y DU.
Hefyd yn ystod y digwyddiad hynod lwyddiannus hawliodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wobr y Tîm Achub â Rhaff Gorau yn Gyffredinol yn y DU a’r Tîm Achub Technegol â Rhaff Gorau yn y DU. Mae hwn yn dîm newydd a ddaeth at ei gilydd eleni o bob rhan o’r Gwasanaeth er mwyn rhannu eu brwdfrydedd dros wella safonau mewn Achub â Rhaff.
Hefyd, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Dde Cymru gystadlu yn yr Her Achub o Ddŵr a daeth tîm newydd sbon arall o Orsaf Penarth yn 3ydd fel Tîm Achub o Ddŵr Gorau’r DU, oedd yn cynnwys cystadlu yn y sefyllfa Achub o Ddŵr Cyflym gyntaf erioed; y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn her genedlaethol UKRO.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM:
“Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan sgiliau ein timau ni i gyd ac fe hoffwn i eu llongyfarch nhw ar eu llwyddiant haeddiannol. Efallai bod y teitlau hyn yn cael eu dyfarnu mewn cystadleuaeth ond mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn rhai mae ein hymladdwyr tân ni’n eu defnyddio o ddydd i ddydd i gadw pobl De Cymru yn ddiogel.
“Mae ein timau ni i gyd yn parhau i’n gwneud ni i gyd yn falch iawn ac fe hoffwn i longyfarch yr holl dimau a gystadlodd yn bersonol. Maen nhw wedi rhoi o’u hamser eu hunain er mwyn paratoi ar gyfer yr Her yma. Rydw i’n eithriadol falch o Dîm Datgymalu Pen-y-bont ar Ogwr, dyma’r chweched tro iddyn nhw ennill yr Her bwysig yma. Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddan nhw’n gadael hefyd i amddiffyn eu teitl Byd yn Ne Affrica ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw.”
Ymhen ychydig ddyddiau bydd Tîm Datgymalu Pen-y-bont ar Ogwr yn hedfan i Dde Affrica i amddiffyn eu Teitl Byd yn Her Sefydliad Achub y Byd ar 23-26 Hydref. Dywedodd y Swyddog mewn Gofal, Rheolwr yr Orsaf, Andy Morgan:
“Roedd yn deimlad anhygoel pan ddaeth y canlyniadau yn ystod y seremoni gloi ac roedd yn deimlad arbennig iawn ennill gartref o flaen cymaint o’n cydweithwyr ni oedd yn ein cefnogi ni.”
“Yr her yng Nghaerdydd eleni ydi un o’r rhai gorau i ni fod ynddi, y lleoliad, y timau i gyd yn cymryd rhan yn yr heriau amrywiol, a hefyd y staff cefnogi o bob adran wedi dod at ei gilydd mewn ffordd mor broffesiynol gan arddangos llawer o sgiliau, roedd yn arbennig iawn.”
Dywedodd CM Emma Atcherly, y Swyddog mewn Gofal ar gyfer Achub â Rhaff:
Mae Tîm Achub â Rhaff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o fod wedi cael cyfle i gynrychioli ein brigâd ni mewn cystadleuaeth mor nodedig gan UKRO. Fel tîm newydd, rydyn ni wedi rhoi oriau o ymarfer yn ystod y 10 mis diwethaf ac yn eithriadol falch o fod wedi ennill y teitl Tîm Achub â Rhaff Gorau a’r teitl Tîm Achub â Rhaff Technegol Gorau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu fel tîm a chystadlu eto yn y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn eithriadol falch o barhau â thraddodiad maith yr UKRO o greu digwyddiad achub o’r safon uchaf. Daeth miloedd o bobl draw i weld yr Her yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd, sy’n lleoliad eiconig ar gyfer digwyddiad hynod lwyddiannus i Dde Cymru. Roedd amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu ar gael a chymerodd partneriaid o bob rhan o’r gwasanaeth brys ran yn ystod y penwythnos, ochr yn ochr â phartneriaid elusennol a chymunedol. Roedd y digwyddiad hwn yn hybu negeseuon diogelwch y gwasanaeth tân i filoedd o bobl, gan helpu i wneud cymunedau De Cymru’n llefydd mwy diogel i bobl fyw ynddynt.
Dywedodd Dewi Rose, y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol:
“Mae wedi bod yn braf cael cymaint o ymatebion positif i’r negeseuon diogelwch mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’n partneriaid ni wedi’u cyflwyno yn y pentref diogelwch yn ystod y digwyddiad achub. Mae gweld pobl yn mwynhau eu hunain yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog yn gysylltiedig â negeseuon diogelwch wedi bod yn llwyddiant i bawb sydd wedi ymwneud â’r digwyddiad a bydd yn helpu i wneud cymunedau De Cymru’n Ddiogelach.”
Wrth i dimau De Cymru baratoi ar gyfer Her y Byd yn awr, mae’r disgwyliadau’n uchel i Ben-y-bont ar Ogwr ddal gafael ar eu teitl byd ond, am nawr o leiaf, gallant oedi ochr yn ochr â’r holl gystadleuwyr eraill o UKRO Caerdydd 2018 a mwynhau eu cyflawniadau eithriadol dros y penwythnos.