Wyth ymosodiad y dydd ar weithwyr brys – gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni, y Nadolig hwn
MAE ffigurau newydd wedi datgelu fod wyth ymosodiad y dydd wedi’u cyflawni yn erbyn gweithwyr brys Cymru yn ystod chwe mis cyntaf eleni.
Cafwyd mwy na 1,360 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis rhwng 1 Ionawr 2021 a 30 Mehefin 2021.
Roedd yr ymosodiadau’n cynnwys cicio, slapio, taro pennau a cham-drin geiriol, gan amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol wedi’u cynllunio ymlaen llaw ac wedi arwain at niwed corfforol difrifol.
Roedd o leiaf 21 digwyddiad yn cynnwys defnyddio arf.
Wrth i’r Nadolig agosau – cyfnod y flwyddyn pan welir cynnydd mewn ymosodiadau’n draddodiadol – mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn gyfnod anodd i ni i gyd, ond nid yw hynny’n esgus i ymosod ar weithwyr brys, sy’n fodau dynol normal sydd yn ceisio cyflawni eu swydd.
“Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu y bydd mwy o bobl allan yn mwynhau’r dathlu, ac yn dilyn yfed alcohol gwelir cynnydd mewn ymosodiadau, corfforol a geiriol.
“Roedd 60 ymosodiad geiriol ar staff ein hystafelloedd rheoli ambiwlans yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.
“Rydym ni’n gwybod ei bod yn amser pryderus pan rydych chi’n aros am gymorth, ond nid cam-drin ein hatebwyr galwadau yw’r ateb – os rhywbeth, gallai hynny oedi anfon cymorth.
“Allan yn y gymuned efallai na fydd gan ein criwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw ei diogelwch personol dan fygythiad, a dydi hyn ddim yn helpu unrhyw un, yn enwedig y claf.
“Nid yw’n dyled i’n gweithwyr gwasanaethau brys erioed wedi bod yn uwch, felly nawr fwy nag erioed, rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni y Nadolig hwn.”
Digwyddodd bron i hanner (47%) yr ymosodiadau yn ystod y cyfnod chwe mis yn Ne Ddwyrain Cymru: Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phenybont ar Ogwr yw’r ardaloedd awdurdod lleol lle ceir yr achosion mynych.
Troseddwyr rhwng 26 a 35 oed yw’r gyfran uchaf sy’n troseddu (24%), tra bo traean y digwyddiadau yn cynnwys pobl dan ddylanwad alcohol.
Gwelwyd y nifer uchaf o ymosodiadau (281) ym mis Mai 2021 wrth i’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru ailagor ar ôl yr ail gyfnod clo Covid-19.
Ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, bu o leiaf 36 digwyddiad lle mae unigolyn wedi pesychu’n fwriadol ar weithiwr brys.
Mae ymosodiadau ar yr heddlu yn cynrychioli dau draean (67%) cyfanswm yr ymosodiadau, gyda 152 dioddefwr y mis ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod chwe mis.
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu’n parhau i gynyddu ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.
“Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig sy’n creu trallod enfawr i unrhyw un, ac nid yw’n wahanol pan fo’r dioddefwr yn weithiwr brys.
“Ym mis Medi gwelsom ddyn yn cael dedfryd o garchar am 26 wythnos, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, ar ôl iddo ymosod yn dreisgar ar ddau o’n swyddogion heddlu a oedd wedi mynd i’w gynorthwyo.
“Roeddynt yn bryderus am ei ddiogelwch felly gwnaethant roi lifft adre iddo – ac yn ddiolch am hynny cafodd y ddau eu hanafu’n gorfforol.
“Mae’r effaith seicolegol ar y ddau swyddog yn rhywbeth fydd yn cymryd cryn dipyn o amser iddynt adfer ohono.
“Yn yr un mis dioddefodd tri swyddog oedd yn cyflawni eu dyletswyddau anafiadau mewn ymosodiad gan y dyn roeddynt yn ceisio ei arestio.
“Er gwaethaf ymdrechion y troseddwr llwyddodd y swyddogion i’w arestio, ond fe’u gadawyd ag anafiadau.
“Ymddangosodd y troseddwr yn y llys y diwrnod ar ôl ei arestio, lle cafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar.
“Mae ymosodiadau fel hyn yn aros gyda’r dioddefwyr am weddill eu gyrfa, ac ni ddylai unrhyw un o fy heddlu na’r staff fynd i’w gwaith yn gwasanaethu’r cyhoedd ac ofni dioddef ymosodiad arnynt.
“Yn ystod tymor ewyllys dda, dangoswch barch tuag at ein gweithwyr brys a’u diogelu.”
Er bod y nifer yn is – 22 digwyddiad yn ystod y cyfnod chwe mis – ym mis Mawrth 2021 gwelwyd cynnydd diesboniad yn yr ymosodiadau ar gydweithwyr yn y gwasanaeth tân, yn enwedig yn Ne Cymru.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM, o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein gwasanaethau brys yn gweithio’n galed bob dydd i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ac ni ddylent orfod ymdrin â cham-driniaeth.
“Mae ymosodiadau ar griwiau tra’n diogelu ein cymunedau a chadw pobl yn saff yn gwbl annerbyniol.
“Mae ein gwasanaethau goleuadau glas yn dod i’w gwaith i wasanaethu ac amddiffyn y cyhoedd ac mae effaith ymosodiadau o’r fath yn medru arwain at ganlyniadau sy’n newid bywyd i bawb a effeithiwyd.
“Wrth gwrs, lleiafrif bach iawn sy’n ymddwyn fel hyn, ac unwaith eto rydym ni’n diolch i’n cymunedau am eu cefnogaeth barhaus yn gweithio gyda ni yn ystod tymor y Nadolig i gadw’n ddiogel.”
Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans yn ogystal â staff carchar a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein gweithwyr brys yn darparu gofal achub bywyd a newid bywyd bob dydd, dan amgylchiadau anodd yn aml.
“Mae ein staff GIG yn paratoi ar gyfer cyfnod Nadolig heriol felly nawr, fwy nag erioed, maen nhw’n haeddu cael eu trin â pharch.
“Mae unrhyw fath o ymosodiad ar ein gweithwyr brys yn gwbl annerbyniol ac rydym ni’n gwneud popeth fedrwn ni i weithio â chyflogwyr GIG Cymru a’n hasiantaethau partner i gael gwared ar ymosodiadau geiriol neu gorfforol ar staff.”
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn cyflwyno deddf newydd a fydd yn golygu dedfryd oes orfodol i’r rhai sy’n lladd gweithiwr brys ar ddyletswydd.
Dywedodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder y byddai’n anelu at gyflwyno ‘Deddf Harper’ yng Nghymru a Lloegr – er cof am y Cwnstabl Andrew Harper of Heddlu Dyffryn Tafwys, a gafodd ei ladd tra ar ddyletswydd yn 2019 – gynted ag y bo modd.
Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Grwp Gwasanaethau Brys ar y Cyd i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.
Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.