Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2020
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o gymryd rhan yn nigwyddiad diogelwch ar y ffyrdd mwyaf y DU, Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd ( y 16eg-22ain o Dachwedd), a gydlynir gan Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, ac a noddir gan Specsavers a DHL. Eleni, mae miloedd o sefydliadau, ysgolion a grwpiau cymunedol yn rhannu manylion am beth, pam a ble mewn perthynas â chyflymdra, achos os ydych chi’n cerdded i’r ysgol, yn marchogaeth ar ffordd wledig neu’n gyrru ar gyfer y gwaith, mae cyflymder y traffig yn bwysig o ran eich diogelwch.
Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yw prif ddigwyddiad hyrwyddo defnydd diogelach o’n ffyrdd y DU, a gydgysylltir yn flynyddol gan elusen Brake gan gynnwys miloedd o ysgolion, cymunedau a sefydliadau ledled y wlad. Cynhelir Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2020 rhwng y 16eg a’r 22ain o Dachwedd, gyda chymorth yr Adran Drafnidiaeth a nawdd Specsavers a DHL.
Fel rhan o’r ymgyrch, bydd ein Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn cynnal cyfres o Sioeau Teithiol Diogelwch ar y Ffyrdd gan gadw pellter cymdeithasol yn Ne Cymru lle byddwn yn trafod ymddygiad gyrwyr a’r 5 Angheuol. Mae’r 5 Angheuol yn cyfeirio at y pum ffactor mwyaf arwyddocaol sy’n arwain at farwolaeth ac anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru. Drwy ddefnyddio ein Cerbyd Gwrthdaro â’n Car ac Addysgu ac Ymgysylltu, bydd y tîm yn tynnu sylw at beryglon a chanlyniadau difrifol posib gyrru di-ofal. Ein nod yw addysgu’r cyhoedd er mwyn gwneud De Cymru’n ddiogelach.
Mae cyflymder yn bwysig gan ei fod yn chwarae rhan ym mhob marwolaeth ac anaf ar ein ffyrdd. Mae’r fformiwla’n syml: po uchaf yw’r cyflymder po galetach yw’r gwrthdrawiad a’r mwyaf yw’r risg o farwolaeth ac anaf. Mae thema Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd eleni, ‘Does Dim Angen Cyflymu’, yn atgoffa pawb am sut mae’r cyflymder teithio yn effeithio ar bobl eraill.
Mae Brake yn annog pawb i gofio bod cyflymder yn bwysig er diogelwch, iechyd a lles pawb. Drwy gymryd rhan yn Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, gallwch helpu i ysbrydoli pobl i ddysgu am gyflymder diogel, ysgolion i addysgu pobl ifanc am sut i sicrhau cyflymderau mwy diogel ar eu strydoedd lleol, yn ogystal â sefydliadau i gynyddu eu polisïau a’u gweithdrefnau i sicrhau bod eu gweithwyr bob amser yn teithio ar gyflymder sy’n ddiogel ac yn briodol i’r ffyrdd.
Dywedodd Josh Harris, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Brake: “Mewn damwain, gall dim ond 1mya wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw, ond yn anffodus rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn dal i dorri’r terfyn cyflymder yn gyson neu’n teithio’n rhy gyflym i ateb amgylchiadau’r ffyrdd. Gan fod rhywun yn cael eu hanafu ar ffordd yn y DU bob pedair munud, a bod cyflymder cerbydau yn chwarae rhan ym mhob damwain, mae’n bwysicach ar hyn o bryd nac erioed ein bod i gyd yn bloeddio Does Dim Angen Gyrru ar Gyflymdra.”
Dywedodd James Connor, Rheolwr Lleihau Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein sefydliad yn chwarae rhan hollbwysig mewn cefnogi, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am wythnos diogelwch ar y ffyrdd. Drwy ddefnyddio ein hadnoddau a chydweithio â’n partneriaid, ein nod yw achub bywydau, atal damweiniau ac anafiadau yn ogystal â lleihau’r nifer o ddamweiniau ar ffyrdd De Cymru.”
Bydd ein Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar gael rhwng 10yb a 4yh yn mhob lleoliad gyda’n Car Gwrthdaro a’r cerbyd addysgu ac ymgysylltu â’r cyhoedd ac ateb eu Cwestiynau am Ddiogelwch ar y Ffyrdd. Dilynwch yr holl reolau cadw pellter cymdeithasol, mesurau diogelwch a chanllawiau perthnasol.