Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd: Dathlu ein #HarwyrDiogelwcharyFfyrdd!
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o gefnogi digwyddiad diogelwch ffyrdd blynyddol mwyaf y DU, Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (15fed – 21ain o Dachwedd 2021), a gydlynnir gan Brake, yr elusen diogelwch ar y ffyrdd.
Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn ysbrydoli miloedd o ysgolion, sefydliadau a chymunedau i weithredu ar ddiogelwch ffyrdd a theithiau diogel ac iach bob dydd. Ffocws yr ymgyrch eleni yw dathlu ‘Arwyr Diogelwch Ffyrdd’ a gwaith arwrol gweithwyr diogelwch ffyrdd proffesiynol, yn ogystal ag egluro sut y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth wneud teithiau’n fwy diogel i bawb.
Sut bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymryd rhan?
Mae hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd yn rhan hanfodol o’n hymgyrchoedd i wneud De Cymru’n diogelach, drwy leihau risg. Drwy’r wythnos, bydd ein Tîm Diogelwch Ffyrdd, gyda’n cydweithwyr o Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a’r awdurdodau lleol, yn ymgysylltu’n gadarnhaol ag aelodau o’r gymuned drwy eu menter ar y cyd o’r enw ‘Ymgyrch Opsiynau’ â’n cydweithwyr yn yr heddlu ac awdurdodau lleol.
Mae Ymgyrch Opsiynau yn ein galluogi i ymgysylltu â gyrwyr a theithwyr sy’n torri’r gyfraith drwy fethu â gwisgo eu gwregysau diogelwch. Bydd y defnyddwyr ffordd sy’n troseddu yn cael cynnig yr opsiwn o dderbyn dirwy am y drosedd, neu wrando ar gyflwyniad addysgol a gyflwynir gan y Gwasanaeth Tân am ddiogelwch ar y ffyrdd a pheryglon gwneud penderfyniadau gwael. Nod ein cyflwyniad diogelwch yw tynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch, hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd, a sut y gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Bydd y tîm hefyd yn cyflwyno eu sgwrs ddiogelwch yr effaith ‘Domino’ gyda phartneriaid o Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, GoSafe, i ysgolion a cholegau lleol i dargedu pobl ifanc 15-25 oed a’u helpu i’w cadw’n fwy diogel wrth iddynt ddechrau gyrru.
Dywedodd Nev Thomas, Rheolwr Lleihau Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein sefydliad yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar y ffyrdd ar draws De Cymru ac mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn gyfle gwych i ni gydweithio a gweithio’n agos gyda’n partneriaid ill dau. Drwy ddefnyddio ein hadnoddau, ein nod yw achub bywydau, atal damweiniau ac anafiadau a lleihau nifer y digwyddiadau yn yr ardaloedd rydym yn eu hamddiffyn.
“Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru rydym yn gweld yn uniongyrchol yr effaith y mae pob digwyddiad yn ei chael ar ein cymunedau. Drwy ddefnyddio mentrau megis Ymgyrch Dewisiadau, gallwn helpu i addysgu aelodau o’r gymuned ac annog pobl i osgoi meithrin arferion gwael ar y ffyrdd ac wrth yrru, gan leihau nifer y digwyddiadau ar ein ffyrdd yn y pen draw.”
Yn ogystal â dathlu gwaith ein Tîm Diogelwch Ffyrdd, bydd GTADC yn rhannu cyngor defnyddiol ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd, gan gynnwys gyrru mewn tywydd gwlyb a gaeafol ac ymwybyddiaeth am feicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill! Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael y cyngor a’r arweiniad diweddaraf ar ddiogelwch ffyrdd, a gweld yr hyn y mae’r tîm yn ei wneud yn ystod yr wythnos
Dolenni Defnyddiol: