Wythnos Diogelwch Tân i Fyfyrwyr

Wrth i wythnos y glas fyfyrwyr gychwyn, mae miloedd o fyfyrwyr newydd yn hedfan y nyth i anelu am brifysgolion ledled De Cymru. Bydd nifer yn byw ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf mewn neuaddau preswyl a llety preswyl prifysgol. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n annog myfyrwyr i fod yn wyliadwrus ac ymwybodol i helpu lleihau nifer y tanau damweiniol a lleihau’r risgiau i’w hunain a’u cydletywyr newydd.

Yn Ne Cymru, achosir 40% o danau o fewn llety myfyrwyr gan goginio, gydag eitemau fflamadwy yn cael eu gadael yn rhy agos at ffynonellau gwres yn achos cyffredin. Mae myfyrwyr yn cael eu hymbil i gymryd gofal ychwanegol wrth goginio a sicrhau bydd cyfleusterau’n lân ac ymarferol a bod ffabrigau yn cael eu cadw’n bell rhag ffynonellau gwres fel y stof, popty ac unrhyw fflamau noeth. Hefyd, rydym yn eich cynghori i beidio byth â gadael coginio heb ei oruchwylio ac i beidio â chael eich llygad-dynnu neu goginio o dan ddylanwad alcohol.

Dywedodd Rheolwr Diogelwch yn y Cartref, Marc Davies: “Mae offer electronig yn achos arferol arall o danau. Llynedd, roedd nifer uwch a achoswyd gan eitemau batri lithiwm-ion. Wrth wefru dyfeisiau trydanol, dylai pobl byth gorlwytho socedi neu wifrau ymestyn ac, ar bob adeg, cofiwch dadblygio a diffodd pob dyfais pan nad yw’n cael ei ddefnyddio a pheidiwch byth â gadael eitemau heb eu goruchwylio.”

Gellir canfod mwy o argymhellion ar sut i’ch cadw chi a’ch cydletywyr yn ddiogel yma.

 

📷 Ymunodd Julie a Lyndsey, ymarferwyr diogelwch yn y cartref, â gwirfoddolwr Lee mewn digwyddiadau Glasfyfyrwyr.