Wythnos Gwirfoddolwyr – Stori Mackenzie
Yn y Gwasanaeth Tân y cyfarfu fy rhieni, felly ces i fy magu gan wybod amdano fe, ac mae’r Gwasanaeth Tân wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Pan oeddwn i’n 13 oed des i’n Gadet Tân, ac yna, pan oeddwn i’n 16 oed des i’n wirfoddolwr. Ym mis Gorffennaf 2019, enillais i Wobr Cyflawniad Eithriadol am fy ngwaith gwirfoddoli gweithredol. ‘Rwy’n mwynhau gwirfoddoli gyda GTADC achos rydych chi’n cael cyfle i wneud pethau na allwch eu gwneud yn yr unman arall – mae’n lle gwirioneddol arbennig i fod ac mae e’n gymaint o hwyl. Mae rhai o’r hoff weithgareddau rydw i wedi helpu eu cyflwyno yn cynnwys Prosiect Phoenix a Diffoddwr Tân am Ddiwrnod. Drwy wirfoddoli yn y gweithgareddau hyn, sylweddolais i ba mor werthfawr yw gweithio gyda phobl iau, a dyna’r rheswm i mi ddychwelyd i’r Cynllun Cadetiaid Tân fel hyfforddwr Cadetiaid. Dydw i ddim wedi gorffen eto, ac rwy’n gobeithio symud ymlaen ymhellach i’r ymuno â’r Gwasanaeth Tân!