Wythnos Ymwybyddiaeth Taenellwr 2021
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (CCPT). Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng Dydd Llun y 17eg o Fai a’r 23ain o Fai a bydd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision systemau taenellu i gadw pobl ac adeiladau’n fwy diogel rhag tân wrth i ni annog pobl i #MeddwlTaenellwr.
Tybir yn gyffredinol mai taenellwyr tân yw’r dull mwyaf effeithiol o atal tanau rhag ymledu yn y camau cychwynnol.
Canfu ymchwil gan CCPT a’r Rhwydwaith Chwistrellau Tân Cenedlaethol (RhChTC) fod systemau chwistrellu yn weithredol 94% o droeon felly maent yn ddibynadwy iawn a phan fyddant yn gweithredu maent yn diffodd neu’n atal y tân ar 99% o achlysuron. Y canlyniad yw bod taenellwyr yn lleihau anafiadau gan o leiaf 80%, yn lleihau difrod i eiddo gan 90% ac yn lleihau niwed i’r amgylchedd o ganlyniad i dân yn sylweddol.
Golyga hyn hefyd bod systemau chwistrellu yn helpu i ddiogelu bywydau diffoddwyr tân a dyna pam eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn gan y gwasanaethau tân.
Yng Nghymru, ceir deddfwriaeth sy’n golygu bod yn rhaid i bob eiddo preswyl newydd gan gynnwys eiddo gofal (ynghyd ag ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru) gynnwys taenellwyr. Mae NFCC wedi galw am ddeddfwriaeth debyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon oherwydd y manteision a ddaw yn sgil systemau taenellu.
Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, , “Mae tystiolaeth glir bod systemau taenellu’n effeithiol iawn o ran lleihau effeithiau tân ac maent yn darparu diogelwch cadarn fel rhan o becyn diogelwch tân. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i leihau’r risg i’w gymunedau a bydd gosod systemau chwistrellu yn help wrth gyflawni hyn. ”
Mae Senedd Cymru yn cefnogi darpariaeth taenellwyr mewn eiddo’n llwyr. Ar ôl cyhoeddi ‘map cynllunio’r grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau ar gyfer gwella diogelwch tân mewn adeiladau uchel, cydnabu Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol, bwysigrwydd taenellwyr gan ddatgan bod tystiolaeth gadarn o blaid effeithiolrwydd taenellwyr i atal marwolaethau, felly rwyf wedi ymrwymo i ystyried sut y gallwn roi mwy o bwys ar ôl-ffitio mewn adeiladau uchel ar draws y sectorau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o ddweud bod rhai sefydliadau eisoes wedi gweithredu ar ddatganiad yr AS.
Dywedodd Andrew Lloyd, Rheolwr Cylchol a Chydymffurfiaeth Cartrefi Dinas Casnewydd, “Yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Grenfell yn 2017, buom yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i leihau risg tân a sicrhau bod ein preswylwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.
“Fel rhan o’r gwaith hwn, gosodom chwistrellwyr mewn fflatiau unigol ac ardaloedd cymunedol ym mhob un o’n tri bloc tŵr o fewn llai na mis ar ôl y drasiedi. Roedd y rhain yn darparu cysur bron yn syth i’n preswylwyr yn ogystal â thawelwch meddwl ychwanegol i ni.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cafodd ein chwistrellwyr eu hactifadu mewn bloc tŵr yng Nghasnewydd wrth ddod â thân padell sglodion dan reolaeth o fewn munud.
“Rydym yn falch iawn o lwyddiant ein system chwistrellwyr, a wnaeth yn union yr hyn y cafodd ei gynllunio i’w wneud – sef amddiffyn ein preswylwyr os bydd tân yn torri allan yn eu cartrefi a lleihau’r canlyniadau dinistriol posib tân.
“Allwn ni byth fod yn sicr o hyn ond mae’n bosib bod ein chwistrellwyr wedi achub bywydau. Mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi sicrwydd ychwanegol i’n preswylwyr bod ein mesurau diogelwch tân yn gweithio’n effeithiol i’w cadw’n ddiogel yn eu cartrefi.
“Fel rhan o’n rhaglen cynnal a gwella parhaus, rydym yn gosod y chwistrellwyr hyn a allai achub bywyd mewn dros 2,000 ychwanegol o’n cartrefi ledled Casnewydd yn ystod y flwyddyn nesaf.”
“Credwn yn gryf fod chwistrellwyr yn fesur diogelwch tân dibynadwy a chost-effeithiol a all leihau’r risg o farwolaeth, anaf, difrod i eiddo a niwed i’n cymunedau.”
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch dilynwch #MeddwlTaenellwr ar y cyfryngau cymdeithasol.