Y cam nesaf i weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

“Mae’n amser i edrych ymlaen a nawr ​i ddechrau bwrw ymlaen yn wirioneddol,” medd Prif Swyddog Tân Fin Monahan mewn sesiwn gweithdy gydag arweinwyr ledled y Gwasanaeth yr wythnos hon a ganolbwyntiodd ar ragoriaeth weithredol.

“​Dwi’n dwlu ar y swydd hon, yn enwedig i gael bod allan yn ymgysylltu â phawb yn y gorsafoedd ac yn y Pencadlys. Dwi wir yn falch o bwy rydych chi a’r hyn rydych chi’n gwneud”, rhanodd Fin â’r tîm.

“Mae rheolwyr yn allweddol i ysgogi newid. Mae gennym wagle prin i gyflawni gwir newid ​arwyddocaol drwy law ein strategaeth. Rydych chi, fel arweinwyr canol yn allweddol i hynny. Felly heddiw, rydym yn mynd i feddwl yn galed am ben ein taith, sut fyddwn yn cyrraedd ato a beth yw’r buddion i’r Gwasanaeth ac i chi fel unigolion”.

Fel rhan o’r drafodaeth barhaus ar arwain newid diwylliannol o fewn y Gwasanaeth a chorffori Cod Craidd Moeseg y Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol (CPTC), daeth rheolwyr canol at ei gilydd yn ddiweddar i adolygu’r cynnydd â’r gwaith a arweiniwyd ganddynt â’u timau yn Rhagfyr yn y gweithdy ‘Ein Gwasanaeth, Ein Gwerthoedd’, ac i rannu safbwyntiau ar y syniadau drafft ar gyfer y weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd newydd.

Saernïwyd y syniadau drafft gan sesiynau tîm lle cymrodd 939 o staff gweithredol a 283 o staff corfforaethol ran, yn ogystal â chadetiaid tân a’r Tîm Arwain Gweithredol. Hefyd, derbyniwyd sylwadau gan Wasanaethau Tân ac Achub eraill a’n sefydliadau partner.

“Rydym wedi bod yn llunio strategaeth sy’n amlinellu ein taith a sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i greu a chorffori rhagoriaeth weithredol.”

“Byddwn yn cymryd agwedd dwy gêr i’n newid. Mae newidiadau diymdroi rydym yn gwybod bydd angen i ni eu gwneud yn y tymor byr. Ond bydd ein newidiadau strategol yn fwy ac yn cymryd mwy o amser i’w datblygu.”

​“Felly, lle gallwn, byddwn yn gwyntyllu cyfleoedd fel cyflwyno proses gyfryngu, darparu hyfforddiant datrys anghydfodau a gwyntyllu rhai technolegau sydd allan yno i’n gwneud ni’n fwy effeithiol.”

“Ond mae newid strategol yn cymryd yn hirach ac mae angen rhoi ystyriaeth lawn iddo.”

​“Mae strategaeth yn dechrau gyda gweledigaeth, ac o hynny, rydym yn creu ein cenhadaeth a’n gwerthoedd ac yna’n adnabod ein llwybr sy’n ein llywio ni drwy’r heriau a’r penderfyniadau fydd angen i ni wneud.”

“Ond drwy hyn oll, wrth i ni wir weithio ar bwy ydym ni, ac yn bwysicach, pwy ydyn ni am fod, byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ein dyletswydd i ddiogelu dros 1.5 miliwn o bobl yn Ne Cymru.”

Ystyriodd rheolwyr y syniadau drafft a ddaeth o dros 160 o sesiynau tîm, a chynnig adborth ar sut y medrwn eu puro, er mwyn iddynt fod yn well ac yn berthnasol i bawb o fewn y Gwasanaeth.

Dywedodd Dominic Mika, Cyfarwyddwr Newid Strategol a Thrawsnewid, “Ry’n ni am i’n gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd i fod yn sylfaen i’r hyn yr ydym a sut ry’n ni am gyflawni pethau yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.”

“Mae llawer i fod yn falch ohono ac mae cydweithwyr yn gweithio ar gyflymder i ddangos gwahaniaeth amlwg i le mae’r Gwasanaeth yn anelu o’i gymharu â lle’r oedd flwyddyn yn ôl.”

“Mae ein rhaglen drawsnewid yn uchelgeisiol ac rydym yn ymrwymedig i weld newid digynsail a gwelliant ar draws y Gwasanaeth – cam mawr arall ymlaen i ni yn ein siwrne o drawsnewid.”

“Nid ydym ar ein pennau ein hunain gyda hwn. Drwy law ein prosesau, buom yn gweithio fel tîm gyda’n rheolwyr ar draws y Gwasanaeth, yn ein harwain yn ein blaenau ac yn gweithio gyda’u timau i achosi newid i ddigwydd un cam ar y tro.”

“Mae’r gweithdai hyn yn bwysig i sicrhau rydym yn cynrychioli pawb sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth a bod gennym weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd sy’n berthnasol i ni i gyd a’n bod yn dod at ein gilydd fel un tîm i fod y gorau allwn fod i ni ein hunain, i’n gilydd ac i bobl yn ein cymunedau ar draws De Cymru.”