Wrth i Haf 2023 ddod i ben, bydd y rhai sy’n dechrau eu blynyddoedd cyntaf neu’n dychwelyd i’r brifysgol yn cymryd rhan yn wythnosau’r glas ledled y wlad.
Mae y Glas yn digwydd wythnos cyn ein menter ein hunain, ‘Wythnos Diogelwch Tân Myfyrwyr’,. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) felly’n cyfuno’r negeseuon i addysgu myfyrwyr newydd am fod yn ddiogel rhag tân yn eu hamgylcheddau newydd.
Mae myfyrwyr sy’n symud i brifysgol yn aml yn symud oddi cartref am y tro cyntaf, a gall hynny fod yn brofiad cyffrous a brawychus. Yn aml mae gan fyfyrwyr newydd wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig am ddiogelwch tân. Dyna pam mae GTADC yn mynychu Wythnosau’r Glas ar draws De Cymru gyfan, i ymgysylltu â myfyrwyr a chynnig cyngor am sut i gadw’n ddiogel yn eu llety newydd, gan gynnwys neuaddau preswyl, neu breswylfeydd preifat.
Os gwelwch unrhyw un o’n tîm yn y digwyddiadau hyn, dewch i ddweud helo, a chadwch lygad am y wybodaeth ddefnyddiol y byddwn yn ei rhannu ar draws ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos.
Cynghorion call i fyfyrwyr –
Dilynwch y cyngor hwn:
- Cadwch allanfeydd tân a llwybrau dianc yn glir
- Gofynnwch am gyngor os byddwch chi’n ansicr am baratoi bwyd yn defnyddio offer trydanol
- Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ddefnyddio offer sythu neu sychu gwallt
- Sicrhewch fod canhwyllau ynghyn yn ddigon pell o wrthrychau fflamadwy, a’u bod yn cael eu diffodd cyn i chi adael ystafell
- Dylech chi ymateb yn gyflym i larymau tân, a gwacáu’r adeilad yn ddiogel
- Dylech wybod ble mae eich llwybr dianc
Peidiwch â:
- Gorchuddio larymau mwg
- Gadael i sbwriel gronni, yn enwedig yn y mynedfeydd
- Ymyrryd ag offer diogelwch tân, megis diffoddwyr tân, larymau tân neu arwyddion allanfa dân
- Anwybyddu larymau tân neu larymau mwg
- Gorlwytho socedi plwg
- Ysmygu dan do
- Coginiwch os ydych chi wedi meddwi neu os nad ydych chi’n canolbwyntio
E-feiciau ac e-sgwteri:
- Defnyddiwch y gwefrwr a gymeradwywyd gan y gwneuthurwr a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer gwefru a storio
- Ceisiwch osgoi eu storio neu eu gwefru mewn cynteddau neu wrth ddrysau, achos gallai hyn rwystro llwybrau dianc
- Peidiwch â’u storio na’u gwefru wrth ymyl unrhyw beth a allai fynd ar dân
- Peidiwch â gwefru batris dros nos neu os nad ydych chi gerllaw
- Cadwch e-feiciau ac e-sgwteri mewn llefydd oer, yn hytrach na llefydd poeth iawn neu oer iawn
- Ceisiwch osgoi ceblau estyn amhriodol a pheidiwch â gorlwytho socedi.
A chofiwch;
os oes tân, ewch allan! Arhoswch allan! Ffoniwch 999!