Ymarfer Hyfforddi Carchar Caerdydd
Nos Iau, y 6ed o Fawrth, cymerodd aelodau criw o Wylfa Wen Caerdydd Canolog ran mewn ymarfer hyfforddi yng Ngharchar Caerdydd, gan efelychu ymateb tân o fewn y cyfleuster. Mae’r carchar gyferbyn â Gorsaf 51. Cododd y carchar y larwm, a danfonwyd criwiau gyda dau beiriant yn gyflym gan fynd i mewn drwy’r gatiau blaen i ymateb i’r senario canlynol:
Mae tân byw wedi ei adrodd yn Asgell F, Llawr 2, ger y Capel. Mae staff wedi cwblhau gwacáu, ond does dim cyfrif am dri charcharor: mae dau yn eu cell ac yn anymwybodol, a’r trydydd ar y landing ond ni ellir ei weld achos mwg sy wedi hel. Mae’r staff hefyd wedi gwacáu’r asgell.
Ar ôl cyrraedd, daeth y criwiau o hyd i leoliad yr hydrant tân agosaf a dechrau rhedeg darn o bibell ddŵr hyd y pellter sylweddol, gan ddringo grisiau i gyrraedd Llawr 2. Gan wisgo offer anadlu, daeth dau aelod o’r criw o hyd i’r ‘anafusion’ yn y celloedd a’r uned gawod, a’u cario i fan diogel, wrth i aelodau eraill o’r tîm weithio i ddiffodd y tân.
Esboniodd aelod o dîm iechyd a diogelwch y carchar, “Mae tanau mewn celloedd yn digwydd yn fwyfwy aml, gyda charcharorion yn tynnu fêps yn rhydd i danio eitemau megid cynfasau gwely. Mae hyn yn creu aflonyddwch sylweddol, a’n nod yw lleihau’r digwyddiadau hyn. Mae’r ymarfer hwn yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod staff carchardai a chriwiau’r gwasanaeth tân yn gwybod yn union pa weithdrefnau i’w dilyn os bydd argyfwng gwirioneddol.”
Dywedodd Rhydian Jones, Pennaeth yr Orsaf, a gydlynodd yr ymarfer: “Roedd yr hyfforddiant hwn yng Ngharchar EF Caerdydd yn amhrisiadwy o ran cynnal a gwella ein parodrwydd gweithredol. Mae meithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda staff carchardai yn hanfodol i ni wella ein hymateb mewn sefyllfaoedd all ddigwydd yn y byd go iawn.
“Defnyddiodd y criwiau amrywiaeth o dechnegau yn ystod yr ymarfer, gan gynnwys pibellau 45mm a 70mm, yn ogystal â chyfarpar anadlu, i fynd i’r afael â’r tân ffug. Wedyn, cynhaliom sesiwn ôl-drafodaeth i asesu ein hymateb a nodi meysydd i’w gwella. Mewn gwirionedd, dim ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cawsom ein galw i dân gwirioneddol yn y carchar, lle’r oedd carcharor wedi cynnau tân mewn bin yn ei gell ar Lawr 3. Fe wnaethom ymateb, archwilio’r lleoliad ac ail osod y larwm .”