Ymateb y Gwasanaeth i COVID-19
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fonitro’n agos holl ganllawiau a chyngor a gyhoeddir gan y Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r COVID-19.
Mae gan y Gwasanaeth gynlluniau wrth gefn llawn â mesurau ar waith i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth o’r radd uchaf.
Yn ogystal a’n gwasanaeth ymateb brys byddwn yn parhau i ddarparu addysg, yn ogystal â chyngor atal ac amddiffyn i gymunedau De Cymru ynhyd â mesurau rheoli ychwanegol.
Cynghorem y cyhoedd, yn garedig, i ddilyn yr holl ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ill dau.
Diolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus.