Ymunwch â’r cyflwynydd Jason Mohammad am sesiwn holi ac ateb am ddiogelwch ar y ffyrdd gyda myfyrwyr meddygol o Brifysgol Caerdydd

Ymunwch â’r cyflwynydd Jason Mohammad am sesiwn holi ac ateb am ddiogelwch ar y ffyrdd gyda myfyrwyr meddygol o Brifysgol Caerdydd

Prosiect Edward (Bob Diwrnod Heb Farwolaeth ar y Ffyrdd), yw’r llwyfan mwyaf ar gyfer arddangos arfer da mewn diogelwch ar y ffyrdd yn y DU, ac yn ddiweddar ymunodd â darpar feddygon a darparwyr gofal meddygol o Brifysgol Caerdydd i drafod yr holl faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd.

Digwyddiad wedi’i recordio yw hwn a bydd yn cael ei chyflwyno Ddydd Mawrth y 4ydd o Fawrth 2025, 11:00 – 12:00. Cewch gyfle i glywed pryderon a chwestiynau pobl ifanc sy’n cael eu hyfforddi i fod yn feddygon.

Jason Mohammad, un o gyflwynwyr mwyaf profiadol BBC Cymru, fydd y cyflwynydd a bydd y sesiwn yn cynnwys:

  • Dull System Ddiogel ar gyfer diogelwch ffyrdd
  • Heriau a wynebir gan ymatebwyr brys
  • Y datblygiadau arloesol diweddaraf mewn gofal trawma
  • Rôl technoleg wrth achub bywydau ar y ffyrdd
  • Newid ymddygiad gyrwyr ifanc
  • Bygythiadau diogelwch sy’n dod i’r amlwg

Cofrestrwch yma

Ar y panel, sy’n cynnwys arbenigwyr swyddogion y llywodraeth, arbenigwyr meddygol a chynrychiolwyr gwasanaethau brys, mae:

  • Kirsty Williams (cyn AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru ac erbyn hyn yn Gomisiynydd Tân GTADC)
  • Dean Loader (Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, GTADC)
  • DA Richard Jones (Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu De Cymru)
  • Dr Beth Barton (Ymgynghorydd Gofal Dwys a Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty)

Bydd y digwyddiad, a recordiwyd ganol mis Chwefror yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i atal ac ymateb i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, cydweithio rhwng y gwasanaethau brys, a chymhwyso egwyddorion System Ddiogel i yrfaoedd clinigwr ifanc yn y dyfodol.

Dywedodd James Luckhurst, sylfaenydd Prosiect Edward: “Mae aelodau tîm Prosiect EDWARD yn ddiolchgar dros ben i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am arwain menter mor gyffrous a gwerth chweil. Gwelon nhw gyfle i ymgysylltu â chlinigwyr brys yfory a rhoi diogelwch ar y ffyrdd a’r System Ddiogel ar frig yr agenda. Yn well fyth, maen nhw wedi cael y prif gyflwynydd Jason Mohammad i reoli’r sesiwn cwestiwn ac ateb a hynny gydag egni a chraffter.

“Mae diddordeb gan awdurdodau eraill yn barod, i wneud rhywbeth tebyg i’r hyn a ddigwyddodd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn dangos ei werth fel ffordd o ddod ag arbenigwyr a phobl ifanc ynghyd i nodi bygythiadau sy’n dod i’r amlwg a chyfleoedd ar gyfer lleihau niwed ar ein ffyrdd.”

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ymrwymiad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd i ddarparu profiadau dysgu clinigol amrywiol a chefnogi cymunedau ledled Cymru.